Simon Thomas
Dylai mwy o arian gael ei glustnodi ar gyfer prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas.

Yn ôl cytundeb a gafodd ei sefydlu yn 2012, dim ond £3.4 miliwn allan o £40 miliwn sy’n mynd at brentisiaethau cyfrwng Cymraeg.

Mae ymrwymiad hefyd i gynyddu nifer y bobol sy’n ymgymryd â phrentisiaethau o fewn y sectorau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

S4C

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd addysg, sgiliau a’r Iaith Gymraeg Plaid Cymru, Simon Thomas: “Mae angen mwy o brentisiaethau yn yr iaith Gymraeg ac mae angen hyrwyddo’r cyfleoedd sydd yn bodoli yn barod.

“Mae’r mwyafrif sylweddol o ymatebion gan bobl ifanc i’r ymgynghoriad diweddaraf yn dweud y dylid cael mwy o brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’r rhaglen Sgiliau ar gyfer yr Economi Ddigidol wedi cefnogi sgiliau a thalent o fewn y diwydiannau creadigol a digidol a’r cyfryngau yng Ngorllewin Cymru, y Cymoedd a Gogled-orllewin Cymru dros y pedair blynedd ddiwethaf.

“Gyda S4C yn symud i Gaerfyrddin, mae’n hollbwysig fod yr ardal yn cymryd y cyfleoedd a gaiff eu creu gan y datblygiad hwn. Dwi’n gobeithio y cawn weld llawer mwy o brentisiaethau yn yr ardal yn dilyn symud S4C i’r Gorllewin.”