Mae pedwar cap newydd yn nhîm Cymru i herio Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Mae canolwr y Dreigiau, Tyler Morgan yn bartner i Scott Williams yn safle’r canolwr, tra bydd asgellwr y Gweilch, Eli Walker yn ymddangos ar yr asgell chwith am y tro cyntaf.

Mae Dominic Day o Gaerfaddon wedi’i gynnwys yn safle’r ail reng, a blaenasgellwr Caerloyw, Ross Moriarty fydd yn gwisgo crys rhif 6.

Ond does dim lle i George North, sy’n parhau i wella yn dilyn tair cyfergyd dros y misoedd diwethaf, ond fe allai gael ei gynnwys yn y garfan derfynol ar gyfer Cwpan y Byd fydd yn cael ei henwi ar Awst 31.

Hallam Amos fydd yn dechrau yn safle’r cefnwr, tra bydd Alex Cuthbert yn chwarae ar yr asgell dde.

Yr haneri fydd James Hook a Mike Phillips.

Ymhlith y blaenwyr mae’r triawd Nicky Smith, Richard Hibbard ac Aaron Jarvis yn y rheng flaen, Jake Ball o’r Scarlets yn bartner i Dominic Day yn yr ail reng, a Justin Tipuric a Dan Baker o’r Gweilch sy’n cwblhau triawd y rheng ôl.

Roedd disgwyl i’r olwr Gareth Anscombe ymddangos yn y garfan, ac mae olwr y Gleision wedi’i enwi ar y fainc.

Tîm Cymru: 15 Hallam Amos, 14 Alex Cuthbert, 13 Tyler Morgan, 12 Scott Williams, 11 Eli Walker, 10 James Hook, 9 Mike Phillips, 1 Nicky Smith, 2 Richard Hibbard, 3 Aaron Jarvis, 4 Jake Ball 5 Dominic Day, 6 Ross Moriarty, 7 Justin Tipuric, 8 Dan Baker.

Eilyddion: Rob Evans, Kristian Dacey, Scott Andrews, James King, Taulupe Faletau, Lloyd Williams, Gareth Anscombe, Matthew Morgan.

Wrth gyhoeddi’r garfan, dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Mae dydd Sadwrn yn gyfle go iawn i’r chwaraewyr hyn roi eu dwylo i fyny.

“Maen nhw wedi creu argraff arnon ni dros yr wythnosau diwethaf, ry’n ni wedi rhoi’r chwaraewyr dan dipyn o bwysau ac maen nhw wedi ymateb yn dda iawn.

“Mae heddiw’n gyfle iddyn nhw ddangos beth maen nhw’n gallu ei wneud ar y llwyfan rhyngwladol.

“Mae gyda ni’r cyfuniad cywir o ieuenctid a phrofiad ac achub ar y cyfle sy’n bwysig ar y lefel yma.”

Anafiadau

Mae disgwyl i George North fod yn holliach ar gyfer Cwpan y Byd ar ôl colli 10 wythnos ola’r tymor diwethaf yn dilyn tair cyfergyd dros gyfnod o bum mis.

Dywedodd hyfforddwr sgiliau Cymru, Neil Jenkins fod North wedi bod yn cymryd ym mron pob sesiwn hyfforddi gyda’r garfan wrth iddyn nhw baratoi i herio Iwerddon.

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl i North gymryd yn yr ornest yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ar

Awst 29 ac yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd yr wythnos ganlynol.

Mae’r garfan o 40 wedi bod yn ymarfer yng Ngwesty Bro Morgannwg yn dilyn teithiau i’r Swistir a Qatar.

Mae Liam Williams a Samson Lee yn parhau i frwydro i brofi eu ffitrwydd ac fe allen nhw golli’r holl gemau paratoadol.

Bydd Warren Gatland yn cyhoeddi’r garfan derfynol ar Awst 31.

Mae’r holl docynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn wedi’u gwerthu.

Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies: “Mae’r ffaith fod y gêm yn erbyn Iwerddon wedi gwerthu allan yn dangos lefel yr optimistiaeth sydd yng Nghymru cyn dechrau Cwpan Rygbi’r Byd.