Mae’r heddlu’n ymchwilio ac yn chwilio am lygad dystion, yn dilyn damwain angheuol yn ardal Gwyr.

Fe ddigwyddodd y ddamwain toc cyn 11yh neithiwr (nos Wener) ar ffordd y B4271  yn ardal Cefn Bryn.

Fe gafodd un dyn ei ladd yn y digwyddiad yn cynnwys car Kia Cee’d lliw gwyn a char ystad Rover MG.

Fe gafodd dyn 67 mlwydd oedd o swydd Hampshire wedi’i gludo i Ysbyty Treforys, Abertawe, ond bu farw ar ôl cyrraedd. Mae pedwar o bobol eraill yn derbyn triniaeth.

Mae’r ffordd yn parhau ar gar heddiw, wrth i’r awdurdodau fwrw ymlaen â’r gwaith ymchwil i beth achosodd y ddamwain.