Ffoaduriaid yn ceisio dringo ar lori (PA)
Mae perchennog cwmni lorïau o Gymru wedi galw am brotest i geisio datrys yr argyfwng trafnidiaeth ar draws y Sianel i Ffrainc.

Mae Peter Harding o Hwlffordd yn Sir Benfro’n dweud ei fod yn gorfod rhoi’r gorau i yrru lorïau i’r Cyfandir, er mai dyna 90% o’i fusnes.

Ac mae wedi galw ar gwmnïau tebyg i wneud yr un peth er mwyn dangos nad yw’r sefyllfa’n dderbyniol.

‘Cost yswiriant a pheryg’

Yn ôl Peter Harding, mae costau yswiriant a’r peryg i’w yrwyr yn golygu nad oes ganddo ddewis ond rhoi’r gorau i anfon lorïau tros y Sianel.

Roedd yn cydnabod hefyd y byddai protest yn arwain at anhrefn yn y siopau wrth i bobol brynu i osgoi prinder – ond dyna oedd ei angen, meddai.

Ond fe ddywedodd fod ymfudwyr wedi torri i mewn i un o’i lorïau ac roedd archfarchnad wedyn wedi gwrthod y nwyddau gan ei orfodi yntau i wneud cais yswiriant drud.

‘Anarchiaeth’

“Oherwydd y ffordd y mae’r wlad yn dibynnu ar nwyddau amserol, fe fyddai yna anarchiaeth yn y siopau, ond dyna sydd ei angen i wneud i’r llywodraethau yma – nid dim ond ein Llywodraeth ni ond llywodraeth Ffrainc hefyd – weithredu o ddifri,” meddai Peter Harding wrth Radio Four.