Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn tân mewn parc carafanau yng Ngheredigion yn oriau mân y bore ma.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Barc Carafanau Sea Rivers yn Ynyslas ger Aberystwyth am oddeutu 2.20 y bore.
Dechreuodd y tân mewn sied fawr oedd yn cadw peiriannau a silindrau nwy, ac fe gafodd y silindrau eu symud oddi ar y safle gan y diffoddwyr tân.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad.