Bydd Llywodraeth Cymru yn neilltuo arian ar gyfer cynllun i reoli llifogydd yn y Barri, yn ôl cyhoeddiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant.
Bydd y Llywodraeth yn cyfrannu £2.9 miliwn i’r cynllun a fydd yn gweithio tuag at leihau llifogydd yn ardal Coldbrook a allai beryglu 205 o gartrefi a thair ysgol.
‘Problem gynyddol’
Mae llifogydd wedi bod yn broblem gynyddol yn yr ardal, gyda systemau draenio a chwrs dŵr Coldbrook yn methu dygymod â llif mawr o ddŵr.
Ym mis Gorffennaf 2007, cafwyd llifogydd difrifol pan ddioddefodd dros 100 o gartrefi ac eiddo ar ôl glaw trwm.
Bydd y gwaith o leihau’r llifogydd yn cynnwys gwella cynhwysedd y cyrsiau dŵr, lledu sianeli, darparu draeniau goferu ac adeiladu mannau storio i ddal llif y dŵr yn ôl pan fydd ar ei lefel uchaf.
“Rwy’n falch iawn o gael cyhoeddi’r arian hwn i ddiogelu pobol, cartrefi, ysgolion a chymunedau yn y Barri,” meddai Carl Sargeant.
Buddsoddi
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo gwerth £24 miliwn o grantiau cyfalaf i gynnal prosiectau rheoli llifogydd ac arfordiroedd ar gyfer 2015/16.
Mae’r cynllun hwn yn un ohonynt.
“Ni allwn wastad rwystro llifogydd”, meddai Darren Walsh, rheolwr Perygl Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, “ond gallwn gymryd camau i leihau’r perygl i gartrefi a busnesau”.
Gobaith y cynllun hwn yw lleihau’r perygl o lifogydd, gan arbed gwerth £50 miliwn o ddifrod hefyd.
“Rydyn ni’n gobeithio y daw’r cynllun â thawelwch meddwl i’r bobol sy’n byw ac yn gweithio yn ardal y Barri”, meddai Darren Walsh.
Yn ogystal â chyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun hefyd wedi diogelu arian gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bro Morgannwg.