Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwared a’r rhan fwyaf o dargedau amseroedd ymateb ambiwlansys ar wahân i’r achosion mwyaf difrifol.

Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn peilota trefn ymateb clinigol newydd  o fis Hydref ymlaen am gyfnod o 12 mis “er mwyn edrych at wella’r profiad a gofal i gleifion mewn sefyllfaoedd brys,” meddai Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd mae tua 500 o alwadau brys yn cael eu categoreiddio fel y rhai mwyaf difrifol ond o dan y system newydd  tua 150 yn unig fydd yn dod o dan y targed o wyth munud.

Daw’r newidiadau hyn fel ymateb i adolygiad Siobhan McClelland o wasanaethau ambiwlans yng Nghymru, a awgrymodd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried symud i ffwrdd o’r targed o ymateb mewn wyth munud, a gyflwynwyd 41 o flynyddoedd yn ôl, at set fwy deallus o ddangosyddion, sy’n rhoi mwy o bwyslais ar ganlyniadau a phrofiadau cleifion.

Ond mae’r penderfyniad wedi ennyn ymateb chwyrn gan y gwrthbleidiau gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn cyhuddo Llywdoraeth Cymru o geisio “cuddio ffigyrau am resymau gwleidyddol.”

‘Amseroedd ymateb yn gwella’

Daw’r newidiadau hyn wrth i ffigurau a gyhoeddwyd heddiw ddangos bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyflawni’r amseroedd ymateb gorau ers mis Tachwedd 2013. Ym mis Mehefin 2015, cyrhaeddwyd 61.4% o alwadau categori A o fewn wyth munud – y chweched mis o’r bron i amseroedd ymateb wella.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y model ymateb clinigol newydd yn sicrhau bod y gofal cywir yn cael ei ddarparu, ar yr amser cywir, gan y clinigwr cywir, yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus ac argymhellion adolygiad McClelland.

Bydd y model newydd yn cyflwyno tri chategori newydd o alwadau – coch, melyn a gwyrdd yn mesur difrifoldeb y sefyllfa.

‘Gwella profiad cleifion’

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething,  “Mae’r model ymateb clinigol newydd, wedi cael ei gynllunio gan brif arweinwyr clinigol gwasanaeth ambiwlans Cymru.

“Mae’n symud oddi wrth y system sy’n seiliedig yn unig ar darged o ymateb mewn wyth munud, a gyflwynwyd 41 o flynyddoedd yn ôl, i un sy’n mesur pa mor llwyddiannus yw ein clinigwyr ambiwlans wrth sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar ganlyniadau clinigol ac ansawdd bywyd pobl.”

Ychwanegodd,  “Rwy’n hyderus y bydd y newidiadau hyn yn gwella profiad cleifion. Byddant hefyd yn golygu bod gwasanaethau ambiwlans brys Cymru ymhlith y rhai mwyaf blaengar a thryloyw yn y byd.”

‘Cam gwleidyddol cyfleus’

Wrth ymateb i’r penderfyniad fe gyhuddodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, Lywodraeth Cymru o geisio cuddio ffigyrau am resymau gwleidyddol.

“Wrth gwrs ei fod e’n wleidyddol gyfleus i Lywodraeth Llafur Cymru sgrapio targedau maen nhw wedi methu eu cyrraedd, yn enwedig gydag etholiad ar y gorwel,” meddai Kirsty Williams.

“Maen nhw’n ffynhonnell cymaint o benawdau negyddol iddyn nhw. Dyw’r targed wyth munud ar gyfer ymatebion ambiwlans brys heb gael ei gyrraedd ers 20 mis.

“Os yw’r Gweinidog Iechyd yn newid y targedau er mwyn gwella canlyniadau clinigol, yn hytrach nag osgoi penawdau gwael i Lywodraeth Cymru, fe fyddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wrth gwrs yn cefnogi.”

Cododd Kirsty Williams bryderon fodd bynnag fod y newid yn golygu na fydd modd cymharu ystadegau rhwng GIG Cymru a gweddill Prydain.

“Tra bod iechyd yn fater datganoledig i bedair cenedl y DU, mae wastad yn bwysig gallu asesu pa mor effeithiol mae cleifion yn cael eu trin yng Nghymru o’u cymharu â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon,” ychwanegodd.

“Mae angen i’r Gweinidog Iechyd wneud yn siŵr bod hyn dal am fod yn bosib.”

‘Arbrawf peryglus’

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Simon Thomas AC, roedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i newid y ffordd mae amserau ymateb ambiwlansys yn cael eu mesur yn “arbrawf peryglus”.

“Mae’r Llywodraeth Lafur yn symud pyst y gôl yn lle mynd i’r afael â mater amseroedd ymateb gwael yr ambiwlansys,” meddai Simon Thomas.

“Arbrawf peryglus yw hwn sydd yn profi nad oes gan Lafur fwriad o wella’r amseroedd mae’n cymryd i ambiwlans gyrraedd rhywun mewn argyfwng; y cyfan mae am wneud yw cuddio eu methiant trwy osod targedau llai uchelgeisiol a chyhoeddi llai o ffigyrau.

“Pan edrychwn yn fanwl ar berfformiad Llywodraeth Cymru, gallwn weld mor wael y maent yn delio â’r gwasanaeth mewn gwirionedd. Y ffaith yw, os byddwch yn ffonio ambiwlans yng Nghymru mewn argyfwng difrifol, 61% o gyfle yn unig sydd i ambiwlans eich cyrraedd o fewn yr amser targed.”

Mynnodd yr AC dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru fod y llywodraeth yn ceisio osgoi cael ei harchwilio gan wleidyddion y gwrthbleidiau wrth gyhoeddi’r newidiadau yn ystod gwyliau’r Cynulliad.

“Nid yw hyn yn dderbyniol, ac y mae’n arwydd o ddirmyg y llywodraeth,” ychwanegodd Simon Thomas.

‘Gwella ymateb’

Mae llefarydd iechyd y Blaid Geidwadol yng Nghymru, Darren Millar wedi croesawu’r drefn newydd ond mynnodd fod angen edrych ar weddill Prydain er mwyn gwella’r sefyllfa.

“Tra’n croesawu’r drefn newydd, mae angen i weinidogion Llafur sicrhau ein bod yn gallu maenbrofi perfformiad gyda rhannau eraill o Brydain, ond fodd bynnag, bydd y newidiadau yn effeithiol os ydynt yn arwain at wella amseroedd ymateb ambiwlans.”

Yn ôl Darren Millar mae gan Gymru “amseroedd ymateb gwaethaf ym Mhrydain, ac mae’r targed mwyaf brys wedi cael ei fethu ers dros 20 mis yn olynol.”