Dafydd Elis-Thomas
Fe fydd dyfodol gwleidyddol cyn-Lywydd y Cynulliad a chyn-Arweinydd Plaid Cymru’n cael ei drafod mewn cyfarfod arbennig heno.

Wythnos diwethaf, derbyniodd aelodau o’r blaid yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd lythyr yn dweud  y bydd cyfarfod arbennig i ystyried a ddylai Dafydd Elis-Thomas gael aros yn ymgeisydd y blaid yn Etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesa’.

Fe allai eu barn nhw benderfynu a yw’r gwleidydd, sydd wedi cynrychioli’r ardal ers 1974, yn cael sefyll neu beidio ar ôl i Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru benderfynu ei fod wedi torri’r rheolau.

Sylwadau ‘niweidiol’

Mae’r llythyr yn dweud bod y Pwyllgor Gwaith wedi trafod sylwadau gan Dafydd Elis-Thomas yn beirniadu ymgyrch y blaid yn yr Etholiad Cyffredinol gan ddweud eu bod “yn niweidiol” i’r blaid.

Fe fydd y Pwyllgor Gwaith yn trafod y mater eto yn ei gyfarfod nesa’ ac roedden nhw eisiau barn yr aelodau lleol yn y cyfamser. Fe fydd y cyfarfod yng Nghanolfan Porthmadog heno.

Mae’n nodi mai cyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith yw  cadw cofrestr o ymgeiswyr cymwys a bod hynny’n cynnwys ystyried ymgeiswyr unigol “er lles y Blaid”.

Mae swyddfa Dafydd Elis-Thomas wedi dweud nad yw am wneud sylw am fod “prosesau” i’w dilyn.