Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Gyngor Sir Powys i wneud mwy i amddiffyn a hyrwyddo’r Gymraeg, mewn rali ar faes yr Eisteddfod ym Meifod.

Bydd y Brifwyl yn ymweld â gogledd y sir wythnos nesaf, ac mae disgwyl i’r ymgyrchwyr fanteisio ar hynny wrth dynnu sylw’r cyngor at lefydd i wella yn ymwneud a’r iaith.

Bu aelodau o’r mudiad mewn cyfarfod o Weithgor Powys yn ddiweddar, ac yn ôl y mudiad iaith fe gymerwyd camau cadarnhaol yn ymwneud â’r Gymraeg.

Ond fe ychwanegodd y mudiad y byddan nhw’n parhau i roi pwysau ar yr awdurdod lleol yn ystod wythnos ble bydd sylw Cymru yn troi tuag at Sir Drefaldwyn.

“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod i ddau gyfarfod cyntaf Gweithgor Powys er mwyn manteisio ar y cyfle i gael y cyngor sir i wneud newidiadau cadarnhaol o ran y Gymraeg,” meddai Elwyn Vaughan, un o’r ymgyrchwyr iaith lleol.

“Wedi dweud hynny, mae gyda ni’n galwadau ein hunain, y byddwn ni  yn eu lansio ar faes yr Eisteddfod mewn rali ar 4 Awst.”

Galwadau

Mae disgwyl i Gymdeithas yr Iaith wneud nifer o alwadau i Gyngor Sir Powys yn y rali, gydag addysg yn debygol o gael llawer o’r sylw yn ogystal á meysydd eraill fel gweithgareddau hamdden, iechyd, a chynllunio.

Bydd yr ymgyrchwyr yn rhestru nifer o bethau maen nhw am i’r cyngor wneud er mwyn gweld tyfu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir, rhai yn bethau i’w gwneud yn syth ac eraill i’w gweithredu dros amser.

“Bydd cyfle gan bawb i weld ein galwadau a rhoi eu sylwadau arnynt wedi’r rali yn yr Eisteddfod,” ychwanegodd Elwyn Vaughan.

“Yn ystod y rali bydd Dafydd Iwan, Arwyn Groe a Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith yn siarad am addysg, cynllunio a’r Gymraeg yn y sir a’r hyn rydyn ni’n galw ar i’r cyngor sir ei wneud.

“Rydyn ni’n cydnabod nad dim ond y cyngor sir sydd angen newid ond rydyn ni’n galw arnyn nhw i ddangos arweiniad; ac mae’r ddogfen yn galw am gydweithio gyda gwahanol fudiadau ar draws y sir a byddai’n arwain at dynnu pobl ar draws Powys i fyw yn Gymraeg.

“Dechrau’r daith fydd y rali, a gobeithio y gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd dros y Gymraeg.”