Y Cynghorydd Gareth Thomas, Penrhyndeudraeth
Mae cynghorydd o Wynedd wedi mynegi siom fod y Swyddfa Bost wedi penderfynu israddio’r gangen ym Mhenrhyndeudraeth – a hynny ar ôl cyfnod ymgynghori pan nad oedd Aelod Seneddol gan y sir.

Yn ystod proses ymgynghori o chwe wythnos fe arwyddodd 1,300 o bobl ddeiseb yn gwrthwynebu cynlluniau’r Swyddfa Bost.

Ond fe ddigwyddodd y broses honno yn ystod cyfnod yr etholiad cyffredinol ym mis Ebrill a mis Mai eleni, pan nad oedd gan y bobl leol ddim cynrychiolydd yn San Steffan.

Elfyn Llwyd o Blaid Cymru oedd yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionydd tan eleni, gyda Liz Saville Roberts yn cael ei hethol fel ei olynydd ym mis Mai.

‘Gwarthus’

Yn lle darparu gwasanaethau post o siop bapur newydd yn y pentref, fe fydd y Swyddfa Bost nawr yn cael ei ail-leoli i un til yn y siop Spar leol.

Fe geisiodd Cyngor Tref Penrhyndeudraeth wrthwynebu’r cynlluniau, a mynnodd cynghorydd sir y pentref, Gareth Thomas, fod amseru’r ymgynghoriad yn gwbl amhriodol.

Ychwanegodd hefyd fod pryder yn lleol na fyddai gwasanaethau drwy’r Gymraeg yn cael eu darparu yn y Swyddfa Bost newydd.

“Dw i’n teimlo bod y penderfyniad wedi ei wneud cyn y cyfnod ymgynghori, gan fod cynlluniau eisoes ar y gweill gyda chwmni Spar,” meddai’r cynghorydd.

“Dw i hefyd ar ddeall yr wythnos yma, nad yw aelodau presennol o staff Swyddfa’r Post wedi cael unrhyw ymgynghoriad am y cyhoeddiad.

“Fel cynrychiolydd Cyngor Sir ar gyfer Penrhyn dwi’n teimlo ei bod hi’n warthus bod Swyddfa’r Post yn dweud wrthym fod cynnig gwasanaeth Cymraeg i’r 70% o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yn y ward, yn ddim i’w wneud â nhw.”