Dafydd Elis-Thomas (Llun Plaid Cymru)
Fe fydd dyfodol gwleidyddol cyn-Lywydd y Cynulliad a chyn-Arweinydd Plaid Cymru’n cael ei drafod nos Fawrth.

Mae aelodau o’r blaid yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd wedi cael llythyr yn dweud  bydd cyfarfod arbennig i ystyried a ddylai Dafydd Elis-Thomas gael aros yn ymgeisydd y blaid yn Etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesa’.

Fe allai eu barn nhw benderfynu a yw’r gwleidydd sydd wedi cynrychioli’r ardal ers 1974 yn cael sefyll neu beidio ar ôl i Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru benderfynu ei fod wedi torri’r rheolau.

‘Niweidiol’

Mae’r llythyr yn dweud bod y Pwyllgor Gwaith wedi trafod datganiadau gan Dafydd Elis-Thomas yn beirniadu ymgyrch y blaid yn yr Etholiad Cyffredinol gan ddweud eu bod “yn niweidiol” i’r blaid.

Fe fydd y Pwyllgor Gwaith yn trafod y mater eto yn ei gyfarfod nesa’ ac roedden nhw eisiau barn yr aelodau lleol yn y cyfamser. Fe fydd y cyfarfod yng Nghanolfan Porthmadog nos Fawrth.

“Byddai hynny’n rhoi cyfle i drafod unrhyw ddatrysiad posibl cyn i’r Pwyllgor Gwaith ddod i gasgliad ar y materion dan sylw… “ meddai’r llythyr.

Mae’n nodi mai cyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith yw  cadw cofrestr o ymgeiswyr cymwys a bod hynny’n cynnwys ystyried ymgeiswyr unigol “er lles y Blaid”.

Neb yn dweud dim

Yn lleol mae’r aelodau yn cadw’n ddistaw, gyda Chadeirydd y Pwyllgor Rhanbarth, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn gwrthod trafod agenda’r cyfarfod gyda Golwg 360.

Dywedodd aelod arall wrth Golwg 360 ei fod wedi derbyn y llythyr, ac yn gwybod ei fod yn gyfarfod dwys, ond nad oedd am ymhelaethu.

Mae swyddfa Dafydd Elis-Thomas wedi ymateb ar ei ran, gan ddweud nad yw am wneud sylw am fod “prosesau” i’w dilyn.