Awyren LinksAir
Dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i werthuso a marchnata nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd, meddai adroddiad beirniadol gan Bwyllgor o’r Cynulliad.

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad wedi cyhoeddi adroddiad terfynol sy’n annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau awyr Cymru, gan ddweud ei fod yn “siomedig” gyda nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i sut y dylai’r Llywodraeth gynllunio ymarferion ail-dendro, marchnata’r gwasanaeth ac ystyried addasiadau i faes awyr Ynys Môn yn unol â nifer y teithwyr.

Wrth ymateb i’r adroddiad, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi galw unwaith eto am sgrapio’r gwasanaeth gan ddweud ei fod yn “ffars.”

‘Siomedig’ yn nifer y teithwyr

Fe wnaeth Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor fynegi ei fod yn “siomedig o hyd yn nifer y teithwyr” sy’n elwa ar y gwasanaeth awyr.

Mae’r adroddiad yn cynnig argymhellion i’r Llywodraeth ar sut i wella eu gwasanaeth a sicrhau cynnydd yn nifer y teithwyr erbyn y dyfodol.

“Roeddem yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i’n hadroddiad interim trwy ei gwneud yn ofynnol bod y contract newydd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer rhagor o farchnata,” meddai Darren Millar.

Ychwanegodd: “Trwy benderfynu a ddylid parhau â’r gwasanaeth awyr braidd yn hwyr, roedd gan Lywodraeth Cymru lai o opsiynau i gael y budd mwyaf gan weithredwyr. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gynllunio’n well ar gyfer contractau sy’n dod i ben, er mwyn caniatáu penderfyniadau cynharach a’r gwerth gorau am arian trethdalwyr.”

‘Ffars’


Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw am sgrapio’r gwasanaeth yn sgil yr adroddiad hwn.

“Heddiw, ry’n ni’n gweld adroddiad beirniadol arall sy’n tynnu sylw at faint o ffars yw’r cysylltiad awyr yn Ynys Môn,” meddai Eluned Parrott AC, llefarydd trafnidiaeth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Mae’r blaid wedi galw sawl gwaith am gael gwared ar y gwasanaeth ac ail-fuddsoddi’r arian mewn gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus eraill.

“Mae Gweinidogion Llafur wedi tywallt miliynau o bunnoedd i ariannu’r gwasanaeth gwastraffus a llygredig hwn, a dyw e heb fod o fantais fawr i bobol gogledd Cymru,” ychwanegodd.

Dywedodd  Eluned Parrott nad oedd yn deall pam fod cymaint o arian yn cael ei wario ar y gwasanaeth pan fo nifer y teithwyr wedi gostwng 35% ers 2008.

Mae’n nodi y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dymuno gweld diddymu’r gwasanaeth gan “ail-fuddsoddi’r arian i wella gwasanaethau bws a thrên ar gyfer pobl Cymru”.

Argymhellion

Fel rhan o’r adroddiad, mae’r pwyllgor wedi cyflwyno naw o argymhellion, gan gynnwys sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n cynllunio’n well tuag at gytundebau a chaniatáu gwasanaeth gwerth am arian i’r trethdalwyr.

Ar hyn o bryd, LinksAir yw’r cwmni sy’n darparu’r gwasanaeth drwy gytundeb, ac mae awyren yn hedfan ddwywaith y dydd bob diwrnod gwaith.

Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn i’r Llywodraeth gynnal adolygiad manwl ar y cytundebau bob tair blynedd gan gydweithio â’r Weinyddiaeth Amddiffyn i ddarparu asesiad o gostau.

Dylent ystyried effaith rhedeg y gwasanaeth ar y penwythnos a gwneud addasiadau i faes awyr Ynys Môn er mwyn ymdopi â mwy o deithwyr, meddai’r adroddiad.

Mae’r adroddiad yn gofyn am fwy o farchnata a chyfathrebu o ran y Llywodraeth, gan bwysleisio’r angen i roi gwybod o flaen llaw os oes newidiadau i deithiau’r awyren.

Mae’r daith rhwng Ynys Môn a Chaerdydd yn para tuag awr fel arfer, ac yn opsiwn gwahanol i’r daith ar hyd y lôn neu ar drên rhwng gogledd Cymru a’r brifddinas.

Mae Golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb i’r adroddiad.