Leanne Wood
Mae Leanne Wood wedi galw ar gefnogwyr Llafur i droi at Blaid Cymru yn dilyn pleidlais ar y Bil Lles yn San Steffan neithiwr.

Dywed arweinydd Plaid Cymru mai ei phlaid hi yw’r unig blaid asgell chwith go iawn yng Nghymru erbyn hyn.

Mewn datganiad, dywedodd Leanne Wood: “Ers rhai blynyddoedd bellach, mae nifer yn y Blaid Lafur wedi cael eu siomi gan hierarchaeth eu plaid wrth iddi gystadlu â’r Torïaid sy’n gallu bod y mwyaf gwrthwynebus i les pobol sy’n gweithio.

“Pe bai aelodau seneddol Llafur wedi pleidleisio gyda’i gilydd yn erbyn y Bil Lles, yna fe ellid fod wedi’i drechu, ond fe benderfynon nhw beidio gwneud hynny.

“Roedd nifer yn gobeithio y byddai terfyn ar Lafur Newydd yn nodi cam tuag at ei gwreiddiau, ond ni fydd hynny byth yn digwydd.

“Nid plaid Benn na Bevan mo Llafur bellach. Plaid Blair a Kendall yw hi, a phlaid Blair a Kendall fydd hi.

“Mae ceisio sêl bendith y Torïaid yn Lloegr yn golygu na fydd calon Llafur yng Nghymru byth eto.”

Tranc y Blaid Lafur

Mae sylwadau Leanne Wood yn ategu barn Andy Burnham, un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Dywedodd Burnham fod Llafur angen “arweinyddiaeth” yn dilyn y bleidlais ar doriadau i fudd-daliadau lles.

Fe allai ei sylwadau gael eu hystyried yn feirniadaeth ar yr arweinydd dros dro, Harriet Harman ar ôl i 48 o Aelodau Seneddol y blaid – gan gynnwys saith yng Nghymru – wrthod ymatal rhag pleidleisio.

Roedd y 48 AS wedi pleidleisio yn erbyn y Bil gan herio Harriet Harman a oedd wedi galw ar aelodau’r blaid i atal eu pleidlais.

‘Sgandal’

Ond mae Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Abertawe, Geraint Davies wedi dweud bod y broses o gymryd rhan – neu ymatal – yn y bleidlais wedi peri dryswch i’r cyhoedd.

Dywedodd wrth Golwg360: “Roedd y rhai oedd wedi ymatal yn gwrthwynebu rhannau o’r Bil, ac nid y Bil yn ei gyfanrwydd.

“Does neb am weld toriadau llym ond mae yna gydnabyddiaeth y bydd yna gyfleoedd eto i ddiwygio ymhellach, ond nid dyma’r ffordd ymlaen yn fy marn i.

“Rwy’n teimlo fod rhaid i fi bleidleisio yn erbyn rhywbeth lle mae’r rhan fwyaf ohono’n anfoesol.

“Mae elfennau rwy’n cytuno gyda nhw ond fel pecyn, mae’n torri incwm a dydy hynny ddim yn gwneud unrhyw synnwyr yn foesol.

“Pam ddylai pobol dlawd ddioddef? Fe fyddai torri’r credyd treth yn tynnu bwyd allan o gegau plant. Tlodi ymhlith teuluoedd sy’n gweithio yw’r sgandal fwyaf sy’n bodoli.

“Roedd y rhai oedd wedi ymatal yn gwrthwynebu rhannau o’r Bil, ond nid y Bil cyfan – ond dydw i ddim yn fodlon cefnogi toriadau Siryf Nottingham, sy’n cosbi’r tlodion er lles y bobol gyfoethog.”