Mae dau o bobol wedi’u cludo i’r ysbyty yn diodde’ o anafiadau difrifol, wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic modur yng Nghasnewydd.

Y gred ydi fod y ddau ar gefn un beic sgramblo pan ddigwyddodd y ddamwain, a bod hwnnw wedi’i falu’n ddau ddarn yn y digwyddiad.

Fe fu’r beic mewn gwrthdrawiad gyda char ar y gyffordd rhwng Ffordd Casgwent a Beechwood Road toc wedi 9yh neithiwr. Chafodd gyrrwr y car mo’i anafu yn y ddamwain.

Fe fu’r gyffordd ar gau am beth amser, wrth i’r gwasanaethau brys wneud eu gwaith, ac wrth i ymchwiliad gael ei wneud o safle’r ddamwain.