Prifysgol Caerdydd
Mae academydd blaenllaw yn rhybuddio bod yna “argyfwng” i’r Gymraeg fel pwnc ym Mhrifysgolion Cymru.

Rhybuddiodd yr Athro E Wyn James o Brifysgol Caerdydd am y “gwaedlif” i adrannau Cymraeg wrth i’r nifer sy’n astudio’r pwnc leihau dros y blynyddoedd.

Ei bryder yw na fydd digon o raddedigion i lenwi’r “angen mawr” am swyddi Cymraeg yn y dyfodol.

Fe fydd Wyn James yn ymddeol dros yr haf ar ôl darlithio ym mhrifysgol y brifddinas ers 1994.

Ond wrth roi’r gorau iddi, dywed ei fod yn pryderu bod y galw am raddedigion Cymraeg yn “cynyddu” ond y niferoedd sy’n astudio’r pwnc “yn lleihau”.

“Mae yna elfen o argyfwng o safbwynt y pwnc,” meddai wrth Golwg. “Dw i wedi bod yma ers 20 mlynedd ac mae ein niferoedd ni yn cynnal yn syndod o dda.

“Pan mae rhywun yn edrych rownd yr adrannau eraill, maen nhw wedi bod yn lleihau yn sylweddol dros y cyfnod yna.

“Felly mae’r pwll yn mynd yn llai a hynny, yn eironig iawn, mewn cyfnod pan mae mwy o alw am bobol sydd â chymwysterau yn y Gymraeg. Nid yn unig i fynd i ddysgu neu gyfieithu ond mae galw mawr am rychwant o swyddi.”

Dros y bum mlynedd diwethaf, ar gyfartaledd, mae 37 o fyfyrwyr yn astudio’r Gymraeg fel pwnc unigol neu ar y cyd ym Mhrifysgol Caerdydd gyda 39 yn dilyn y pwnc yn 2014. Mae 47 ar gyfartaledd yn gwneud hynny ym Mhrifysgol Bangor ac mae’r niferoedd wedi cynnal yn weddol gyson ers 2009 a 54 yn astudio’r Gymraeg yn 2014 .

Ym Mhrifysgol Aberystwyth dros y pum mlynedd diwethaf mae 45, ar gyfartaledd, o fyfyrwyr yn astudio’r Gymraeg fel gradd sengl neu ar y cyd er bod 58 yn dilyn cwrs gradd tair blynedd yn ôl o gymharu â 42 y llynedd.

Gellir darllen rhagor yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.