Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i blentyn syrthio allan o gar ar briffordd yr A470 amser cinio ddoe.

Roedd y plentyn yn teithio mewn Rolls Royce Limousine rhwng Caersws a Carno pan ddisgynnodd allan ychydig cyn 1.15pm.

Aed â’r plentyn i ysbyty am driniaeth.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad gysylltu ag Uned Plismona Ffyrdd Canolbarth Cymru ar 101.