Mae clybiau Cymru eisoes wedi derbyn dros £1m rhyngddyn nhw mewn gwobrau ariannol am gystadlu yn Ewrop yr Haf hwn.

Neithiwr fe enillodd Y Drenewydd eu lle yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Ewropa. Colli fy hanes Y Bala ac Airbus yn eu cymalau nhw yn y rownd gyntaf.

Yn gynharach yr wythnos hon roedd Y Seintiau Newydd hefyd wedi profi llwyddiant yn Ewrop wrth gyrraedd ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Ac mae’r pedwar clwb eisoes wedi derbyn dros €1.5m (£1.1m) o wobrau ariannol drwy’r gystadleuaeth, gan chwyddo’u coffrau’n sylweddol.

Hanner miliwn i’r Seintiau

Mae’r Seintiau Newydd, fydd yn wynebu Videoton o Hwngari yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr, eisoes wedi derbyn €750,000 (£540,000) am drechu B36 Torshavn o Ynysoedd y Ffaro yn y rownd gyntaf.

Cafodd Y Drenewydd, sydd yn teithio i Gopenhagen yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Ewropa, €410,000 (£295,000) am ennill yn erbyn Valletta o Malta yn y rownd gyntaf neithiwr.

Er i’r Bala golli i Differdange (Lwcsembwrg), ac Airbus i NK Lokomotiva (Croatia) yn eu rownd gyntaf nhw, mae’r ddau glwb wedi derbyn €200,000 (£144,000) yr un.

Yn ogystal â’r arian gwobrau mae’n debygol y bydd torfeydd cartref y timau yn eu gemau Ewropeaidd yn hwb ychwanegol i’r coffrau.

Roedd stadiwm Y Drenewydd yn llawn gyda 1,400 yno i’w gwylio, ac fe werthodd Y Seintiau Newydd a’r Bala dros 1,000 o docynnau ar gyfer eu gemau nhw hefyd.