San Steffan
Y pellaf mae rhywun yn byw o Lundain, y lleiaf mae pobl yn ymddiried yng ngwleidyddion San Steffan, yn ôl arolwg newydd.

Er bod bron i chwarter y rhai a holwyd yn Llundain (23%) wedi dweud y byddent yn ymddiried yng ngwleidyddion San Steffan i ddyrannu gwariant o fewn eu rhanbarth, disgynnodd y lefel i 19% yn nwyrain Lloegr, 17% yn ne Lloegr, 15% yng nghanolbarth Lloegr, 14% yn yr Alban a gogledd Lloegr, 13% yng Nghymru a dim ond 2% yng Ngogledd Iwerddon.

Ond daeth yr arolwg newydd i’r casgliad fod gan bobl fwy o hyder mewn gwleidyddion lleol a rhanbarthol i wneud y penderfyniadau cywir.

Cafodd yr arolwg ei gomisiynu gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA), sy’n galw symud mwy o bwerau gwariant a phwerau codi arian i ffwrdd o San Steffan i’r rhanbarthau a chenhedloedd datganoledig y DU.

Dywedodd prif weithredwr CIPFA, Rob Whiteman: “Wrth i bobl ymddiried lai yn Whitehall, mae angen i wleidyddion San Steffan wneud yn siŵr eu bod yn grymuso ac yn arfogi arweinwyr lleol gyda’r modd a’r pwerau i sicrhau bod datganoli yn gweithio i gymunedau lleol.”