Craig Thomas Savage
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhuddo dyn o lofruddio dyn 31 mlwydd oed yn Llandrindod fore Sul.

Bu farw Craig Thomas Savage yn dilyn ymosodiad arno yn Stryd y Deml, Llandrindod, yn oriau mân fore Sul.

Fe fydd dyn 25 oed yn ymddangos gerbron Llys Ynadon y Trallwng heddiw ar gyhuddiad o’i lofruddio.

Dywedodd teulu Craig Savage mewn teyrnged iddo eu bod wedi tristau yn fawr yn sgil ei farwolaeth gan ei ddisgrifio fel “bachgen da â chalon dda”. Maen nhw wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn i alaru amdano.