Mynydd Pen y Fan, ym Mannau Brycheiniog
Mae dau berson, gan gynnwys dyn yn ei 50au, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael eu taro gan fellten ar fynydd Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog ym Mhowys.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod dau o bobl wedi cael eu cludo mewn hofrennydd y Llu Awyr i Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful gydag anafiadau sy’n bygwth bywyd.

Cafodd trydydd person hefyd ei daro gan fellten a’i gludo i’r ysbyty ond mae’n debyg nad yw ei anafiadau yn rhai sy’n bygwth bywyd.

Cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys timau achub mynydd, eu galw i’r safle tua 12.05 prynhawn ma.