Mae cyn-bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi mynegi pryderon wrth Golwg360 ynglŷn â’i dyfodol.

Awgrymodd yr Athro Emeritws Gruffydd Aled Williams, oedd yn bennaeth yr Adran Gymraeg am dros ddegawd, bod yr adran wedi cael “triniaeth wael” gan uwch-swyddogion y brifysgol a bod “gwendidau mawr” yn y ffordd roedd y sefydliad yn cael ei redeg.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae pum aelod o staff academaidd yr adran wedi neu ar fin gadael – tair swydd mae’r brifysgol wedi hysbysebu i gymryd eu lle, ac un o’r rheiny yn swydd rhan amser.

Gydag ymddeoliad yr Athro Marged Haycock fe fydd y newidiadau arfaethedig hefyd yn gadael Adran y Gymraeg yn Aberystwyth heb Athro ymhlith y staff, o’i gymharu ag adrannau Cymraeg mewn rhai o brifysgolion eraill yng Nghymru sydd â phedwar neu bump.

‘Agweddau negyddol’

Roedd Adran y Gymraeg yn un o’r rheiny gafodd eu symud gan Brifysgol Aberystwyth o adeilad yr Hen Goleg i fyny i brif gampws Penglais blwyddyn a hanner yn ôl, penderfyniad gafodd ei wrthwynebu gan rai o’r staff a’r myfyrwyr ar y pryd.

Ac fe awgrymodd Gruffydd Aled Williams, oedd yn bennaeth ar yr adran o 1995 i 2008, nad oedd y berthynas rhwng yr Adran Gymraeg ac uwch-swyddogion y brifysgol yn un da.

“Yn anffodus, cefais yr argraff bendant fod agwedd awdurdodau presennol Prifysgol Aberystwyth tuag at Adran y Gymraeg yn bur negyddol,” meddai’r cyn-bennaeth wrth golwg360.

“Mae’n ymddangos mai prin yw’r ddirnadaeth o’r cyd-destun y mae Adran y Gymraeg yn gweithio o’i fewn nac o natur y Gymraeg fel disgyblaeth academaidd.”

Y pwnc yn dioddef

Yn ôl y data diweddaraf gan y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) fodd bynnag, mae Adran y Gymraeg yn parhau i berfformio’n well na’r rhan fwyaf o adrannau eraill y brifysgol o ran cyhoeddi ymchwil o safon sydd yn rhagori’n fyd eang.

Ac mae ffigyrau diweddar yn dangos hefyd bod mwy o fyfyrwyr yn astudio eu pynciau yn y brifysgol drwy’r iaith Gymraeg.

Ond mae cyn-bennaeth Adran y Gymraeg yn mynnu bod y newidiadau arfaethedig i’r adran yn Aberystwyth, gyda llai o staff yn cael eu penodi i gymryd lle’r rheiny sydd yn neu wedi gadael, yn peryglu dyfodol y Gymraeg fel pwnc ynddo’i hun.

“Bu’r cynnydd yn y brifysgol o ran dysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ganmoladwy, ond drwy nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol y bu hynny,” meddai Gruffydd Aled Williams.

“Mae gan Brifysgol Aberystwyth, fel prifysgolion eraill yng Nghymru, gyfrifoldeb hefyd tuag at y Gymraeg fel disgyblaeth academaidd.

“Os na noddir y ddisgyblaeth yn deilwng gan brifysgolion yng Nghymru ei hunan, ymhle arall y digwydd hynny?”

Beio’r brifysgol

Awgrymodd Gruffydd Aled Williams y gallai pryderon ynglŷn â dyfodol Adran y Gymraeg o fewn y brifysgol fod yn arwydd o broblemau ehangach o fewn y sefydliad.

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth y byddai’n cau Neuadd Pantycelyn er mwyn ei hadnewyddu a’i hailagor mewn pedair blynedd, ar ôl ymgyrch hir gan fyfyrwyr.

Mae wedi wynebu beirniadaeth hefyd ar ôl cwympo lawr tabl o brifysgolion gwledydd Prydain, o safle rhif 50 yn 2011 i 110 eleni.

Ac yn ôl y cyn-bennaeth, mae’n bryd i is-Ganghellor y brifysgol April McMahon a’i huwch-swyddogion gwestiynu eu rôl nhw yn yr helyntion.

“Efallai fod y driniaeth wael a gafodd Adran y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn arwydd pellach, fel llanast helynt Neuadd Pantycelyn yn ddiweddar a chwymp trychinebus y sefydliad yn nhablau’r prifysgolion, o wendidau mawr arweinyddiaeth y brifysgol ar hyn o bryd,” meddai Gruffydd Aled Williams.

Ymateb Prifysgol Aberystwyth

Mewn ymateb i sylwadau Gruffydd Aled Williams, dywedodd Prifysgol Aberystwyth y byddai’r staff newydd sydd yn cael eu penodi Adran y Gymraeg yn sicrhau bod “cwricwlwm cyflawn” yn cael ei gynnig.

Yn ogystal â’r tair swydd sydd eisoes wedi cael eu hysbysebu gan y brifysgol, mae “cynlluniau ar droed” i benodi Darlithydd llawn amser mewn Astudiaethau Cyfieithu fyddai’n mynd â chyfanswm staff dysgu’r Adran i ddeg.

Dywedodd y brifysgol y byddai’r Adran yn parhau i ddysgu pynciau Cymraeg, Cymraeg Proffesiynol, a Gwyddeleg a Llydaweg trwy gyfrwng y Gymraeg, ac y bydd cyrsiau MA newydd mewn Astudiaethau Celtaidd a Cymraeg Proffesiynol yn cael eu cynnig o 2016 ymlaen.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous yn natblygiad Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Adran sydd â chyflawniadau rhagorol yn gyson o safbwynt bodlonrwydd myfyrwyr a chanlyniadau cyflogadwyedd ei graddedigion,” meddai datganiad gan y brifysgol.

“Yn ystod 2015-6 bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i atgyfnerthu a datblygu darpariaeth israddedig ac uwchraddedig ym maes Astudiaethau Celtaidd, ac i farchnata’r ddarpariaeth hon.”

Yn sgil pryderon cyn-bennaeth y Gymraeg yn Aberystwyth ynglŷn â’r diffyg Athrawon fydd yn yr Adran o fis Medi ymlaen, mynnodd y brifysgol bod croeso i ddarlithwyr presennol geisio i fod yn Athro.

“Mae rhwydd hynt i staff ymgeisio am ddyrchafiad, gan gynnwys i Gadair, a dyfernir dyrchafiadau gan banel pwrpasol i’r sawl sy’n cyrraedd y meini prawf hynny,” meddai’r brifysgol.

Stori: Iolo Cheung