Mae dyn 41 mlwydd oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyflawni ymosodiad rhyw difrifol mewn maes parcio yn Hwlffordd dros y penwythnos.

Roedd y maes parcio aml-lawr ger gorsaf fysus y dref wedi cael ei gau ddydd Sul yn dilyn y digwyddiad honedig yn erbyn dynes 40 mlwydd oed yn oriau man y bore.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y dyn o ardal Arberth ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.