Bydd cyfarfod cyhoeddus arbennig yn cael ei gynnal heno ar gyfer  trigolion lleol Llangefni i drafod y cynlluniau i ddenu’r Brifwyl i Ynys Môn yn 2017.

Fe fydd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ieuan Williams yn gofyn yn swyddogol a yw pobl yr ynys am groesawu’r Eisteddfod. Os yw’r gynulleidfa o blaid gwahodd y brifwyl, bydd y gwaith yn mynd rhagddo i greu pwyllgorau testun ac apêl.

Nid oes disgwyl i’r pwyllgorau ddechrau cyfarfod tan yr hydref, gydag awdurdod yr Eisteddfod yn gofyn i bobl ystyried ymuno a meddwl am ffyrdd o fod yn rhan o’r gwaith.

Mae’r cyngor eisoes wedi datgan eu bod yn awyddus i ddenu’r brifwyl i’r ardal, gan amcangyfrif y gallai fod werth rhwng £6-8miliwn i economi lleol Ynys Môn.

Mae Awdurdod yr Eisteddfod Genedlaethol eisoes wedi cadarnhau eu bod wedi dechrau trafod y posibiliad o leoli’r ŵyl yn ardal Bodedern ar yr ynys.

Tra’n dweud y gallai’r ŵyl ddenu tua 160,000 o ymwelwyr i’r ynys yn ystod yr wythnos, mae Cyngor Môn yn pwysleisio fodd bynnag fod angen i drigolion a chymunedau lleol fod yn barod i gynorthwyo gydag ymdrechion codi arian at gynnal y brifwyl.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Ysgol Gyfun Llangefni am 6.30yh.