Mae gwasanaethau orthopedig yng Nghymru wedi gwella yn ystod y degawd diwethaf, ond mae rhagor o drafferthion ar y gorwel, yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol.

Mae’r trafferthion, meddai, o ganlyniad i ymdrechion i leihau amserau aros a rhoi llai o sylw i ddatblygu atebion tymor hir i ateb y galw am wasanaethau.

Er bod amserau aros ar gyfer triniaethau orthopedig wedi lleihau dros y degawd, maen nhw ar gynnydd unwaith eto ar hyn o bryd.

Rhybuddia’r Archwilydd Cyffredinol fod mynediad i brofion diagnostig fel man cychwyn yn ymestyn amserau aros ar y cyfan i nifer o gleifion.

‘Ddim yn adlewyrchiad teg’

Mae’n feirniadol hefyd o’r ffordd caiff asesiadau a thriniaethau eu cofnodi, sy’n golygu nad yw ffigurau sy’n cael eu cyhoeddi bob amser yn adlewyrchiad teg o’r amserau aros.

Er bod prinder gwlâu mewn ysbytai, meddai, mae’r defnydd o’r adnoddau sydd ar gael yn gwella a hynny’n bennaf wrth gyflwyno triniaethau undydd heb fod rhaid aros yn yr ysbyty dros nos.

Serch hynny, mae nifer cynyddol o gleifion yn parhau i aros mwy na 26 wythnos cyn derbyn apwyntiad i weld meddygon orthopedig.

Roedd £65 miliwn ychwanegol ar gael rhwng 2011 a 2014 i leihau amserau aros ac i reoli gwasanaethau.

Ond nid oes yr un bwrdd iechyd yng Nghymru  wedi cyrraedd eu targedau o ran amserau aros ers 2012.

Argymhellion

Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnwys nifer o argymhellion, sef:

  • Sicrhau bod canllawiau ar gyfer dargyfeirio cleifion yn cael eu cyflwyno a’u gweithredu
  • Rhoi sylw i’r gwendidau a chreu cynlluniau i’w datrys fel rhan o’r Rhaglen Gofal wedi’i Gynllunio
  • Sicrhau bod Llywodraeth Cymru a’r byrddau iechyd yn cydweithio er mwyn datblygu cyfres o fesurau a systemau i fesur llwyddiant gwasanaethau orthopedig

‘Dirywio’

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Darren Millar fod “gormod o bobol yng Nghymru yn aros yn rhy hir am driniaeth orthopedig”.

“Er bod y gwelliannau yn effeithiolrwydd rhai agweddau ar y gwasanaethau orthopedig yn galonogol, mae’n destun pryder nad yw’r amser aros yn cwrdd â thargedau Llywodraeth Cymru, ac yn dirywio erbyn hyn.

“Mae’n arbennig o siomedig nad yw’r mentrau cenedlaethol blaenorol wedi arwain at welliannau cynaliadwy yn y gwasanaethau.

“Mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos iawn â’r Byrddau Iechyd i sicrhau bod y galw am wasanaethau orthopedig yn cael ei reoli’n well fel bod cleifion yn cael triniaeth amserol a phriodol.”