Carwyn Rhys Scott-Howell
Mae disgwyl i gwest i farwolaeth bachgen saith mlwydd oed ddechrau heddiw.
Bu farw Carwyn Rhys Scott-Howell o Bowys ar wyliau sgïo yn Ffrainc ym mis Ebrill.
Clywodd gwrandawiad cychwynnol y cwest fod Carwyn Rhys Scott-Howell, o bentref Tal-y-bont ar Wysg, ger Aberhonddu wedi cwympo dros glogwyn uchel yn ardal Flaine, yn yr Alpau yn Ffrainc ar 11 Ebrill.
Roedd ymchwiliad i’w farwolaeth wedi dweud nad oedd e wedi marw o ganlyniad i esgeulustod, ond mai “damwain drasig” oedd hi.