Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr y GIG Cymru
Mae prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi cadarnhau bod yr heddlu yn ymchwilio i agweddau o gynllun ariannol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae dau aelod o staff wedi cael eu gwahardd o’u gwaith tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal, meddai’r bwrdd iechyd.

Daw’r ymchwiliad wrth i’r bwrdd iechyd sy’n gwasanaethu gogledd Cymru gael ei roi mewn mesurau arbennig yn dilyn pryderon am ei berfformiad.

Wrth gyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad heddiw, fe awgrymodd y prif weithredwr Dr Andrew Goodall bod yr heddlu wedi bod yn ymchwilio i’r bwrdd iechyd ers mis Tachwedd.

Fe ofynnodd Cadeirydd y pwyllgor Darren Millar iddo a oedd yr ymchwiliad yn ymwneud â honiadau o dwyll ond fe wrthododd Dr Andrew Goodall roi manylion am natur yr ymchwiliad.

“Mae ymchwiliad yn digwydd. Dw i ddim eisiau trafod mwy o fanylion ar hyn o bryd. Hyd yn oed yn y cyfarfod gafodd ei gynnal yma fis Tachwedd diwethaf, doeddwn i ddim yn gallu mynd i fanylion am ei fod yn ymchwiliad cyfredol,” meddai.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru fynegi pryder am gynllun gwariant Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Datganiad Betsi Cadwaladr

Mewn datganiad fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: “Yn fuan yn 2014, fe godwyd pryderon ynglŷn â chostau rhaglen ailddatblygu Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

“Fe weithredodd y bwrdd iechyd yn gyflym i ddechrau archwiliad o’r cynllun, gan gyfeirio’r mater at yr adran sy’n delio â honiadau o dwyll o fewn y gwasanaeth iechyd,” meddai’r datganiad.

“Rydym yn deall fod ymchwiliad yn ymwneud â’r adran honno a Heddlu Gogledd Cymru yn parhau. Mae dau aelod o staff wedi cael eu gwahardd o’u gwaith wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo.”

‘Cleifion yn bryderus’

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, a chadeirydd y pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Darren Millar AC: “Bydd cleifion yn bryderus iawn o glywed y cyhoeddiad hwn; yn enwedig o ystyried y gyfres o sgandalau sydd wedi siglo gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru.

“Bydd y cyhoedd a’u cynrychiolwyr yn awyddus i wybod beth mae  ymchwiliad yr heddlu yn ymwneud ag o.”

Dywedodd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cymru, Aled Roberts: “Yn amlwg, mae’r ymchwiliad hwn yn creu hyd yn oed mwy o bryderon am sefyllfa’r Bwrdd Iechyd, ond un peth positif yw mai nhw yn y pen draw wnaeth ofyn i’r heddlu ymchwilio.

“Y cwbl allen ni ei wneud yw disgwyl nes bod ymchwiliad yr heddlu wedi’i gwblhau a gobeithio dangos na chafodd troseddau eu cyflawni.

“Un cwestiwn faswn i’n hoffi gofyn i Heddlu’r Gogledd yw pa mor hir fydd hi nes bod yr ymchwiliad yn dod i ben? Mae angen sicrwydd fod y dystiolaeth i gyd wedi cael ei ystyried a bod y sefyllfa o fewn  y bwrdd iechyd wedi cael ei ddatrys.”