Eisteddle Canton ble mae disgwyl i'r canu brwd gychwyn.
Uwch na Sbaen?
Ffaith syfrdanol i chi – os ydi Cymru’n ennill heno mi fyddan nhw’n un o’r prif ddetholion pan fydd grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn cael eu dewis fis nesaf.
I roi hynny mewn persbectif, tro diwethaf (yn y grŵp efo Croatia, Serbia, Gwlad Belg, Yr Alban a Macedonia) Cymru oedd y tîm o Bot Chwech – ia, yr un pot â San Marino ac Andorra.
Ond fe fyddai curo Gwlad Belg, sydd yn ail ymysg detholion y byd, yn golygu bod Cymru’n saethu fyny rhestr FIFA – ac maen nhw eisoes yn 22ain.
Byddai hynny’n sicrhau eu bod nhw ymysg y pot cyntaf o dimau Ewropeaidd, gan basio timau fel Sbaen, Ffrainc, Yr Eidal a’r Swistir yn y broses.
Do, mi ddarllenoch chi hynny’n gywir – os ydi Cymru’n curo Gwlad Belg heno, mi fyddan nhw’n uwch na Sbaen ymysg detholion y byd.
Bale yn cyrraedd yr hanner cant
Does dim dwywaith mai Gareth Bale fydd bygythiad ymosodol mwyaf Cymru yn erbyn Gwlad Belg heno, wrth i’r ddau dîm frwydro i fod ar frig eu grŵp rhagbrofol.
Ond mae’n garreg filltir bersonol i chwaraewr drytaf y byd, hefyd, wrth i’r hogyn o Gaerdydd ennill ei hanner canfed cap dros ei wlad.
Ag yntau yn o’r hogiau ifanc gafodd eu taflu mewn i’r tîm cenedlaethol gan John Toshack yn y 2000au, dim ond 16 oed oedd Bale ar y pryd a ddim hyd yn oed yn ddigon hen i yrru!
Fe greodd o’r gôl fuddugol i Robert Earnshaw yn erbyn Trinidad a Tobago yn y gêm honno, ac ers hynny mae wedi datblygu o fod yn hogyn swil i fod yn arweinydd mawr yn y garfan.
Mae ganddo bedair gôl yn yr ymgyrch yma’n barod, ond mi fyddai un arall i Gymru heno yn help mawr i geisio curo’r Belgiaid.
Dim Fellaini
Ni fydd Maroune Fellaini yn chwarae heno, ac mae hynny’n newyddion reit dda i Gymru gan fod chwaraewr canol cae Man U wedi bod ar dân i’w glwb a’i wlad yn ddiweddar.
Mae’n debyg fod tîm Gwlad Belg yn dewis ei hun felly, gyda Kevin De Bruyne yn dod i mewn i’r canol, a phenderfyniad i’w wneud rhwng Nacer Chadli a Dries Mertens ar yr asgell.
Dyma’r tîm sydd yn debygol o ddechrau i Wlad Belg: Courtois, Alderweireld, Denayer, Vertonghen, Witsel, Nainggolan, Chadli, De Bruyne, Hazard, Benteke.
Dim Dummett chwaith
Amddiffynnwr Newcastle Paul Dummett ydi’r unig chwaraewr sydd wedi gorfod tynnu nôl oherwydd anaf ers i Chris Coleman gyhoeddi’r garfan.
Ond roedd James Collins a Ben Davies eisoes allan gydag anafiadau, ac mae absenoldeb Dummett yn golygu bod amddiffyn tîm Cymru yn edrych yn denau.
Pedwar yn y cefn fydd hi felly, gyda Chris Gunter, Ashley Williams, James Chester a Neil Taylor yn dechrau mae’n siŵr.
Ond os oes unrhyw beth yn digwydd i un ohonyn nhw, mae hynny’n gadael Adam Matthews, Ashley Richards ac Adam Henley – tri cefnwr troed dde.
Stadiwm dan ei sang
Am y tro cyntaf erioed, mi fydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn ar gyfer gêm Cymru heno.
Roedd yna awyrgylch wych yn y ddwy gêm yn erbyn Bosnia a Chyprus llynedd, ond gyda’r Gymdeithas Bêl-droed yn addo adloniant gan y Super Furry Animals a Zombie Nation heno, mi allwch chi ddisgwyl i’r lle fod yn bownsio ymhell cyn y gic gyntaf.
‘Byddwch yno cyn saith’ ydi neges Coleman i’r cefnogwyr, a pha ffordd well o roi hwb i dîm Cymru a gwneud y Belgiaid yn nerfus na chael 33,000 o bobl yn cadw sŵn byddarol wrth iddyn nhw baratoi at y gêm?
Efallai nad ydi’r gêm yma’n cael ei chwarae yn Stadiwm y Mileniwm, ond gyda digon o sŵn fe allai cefnogwyr Cymru ail-greu awyrgylch sydd llawn cystal â’r hynny rydan ni’n ei weld mewn gemau rygbi rhyngwladol.
Mae Eisteddle’r Canton eisoes wedi’i addurno â chardiau ‘Cymru’ ar y seddi, ac yn fanno hefyd y mae’r canu swnllyd yn debygol o ddechrau heno.
Bydd Iolo Cheung yn cynnal Blog Byw i golwg360 o Stadiwm Dinas Caerdydd heno – mae’r gic gyntaf am 7.45yh.