Y Cymry yn dathlu ar ôl y canlyniad oddi cartref yng Ngwlad Belg (llun: CBDC)
Rydan ni wedi cael tipyn o sôn a chyffro o gwmpas gêm Cymru’r wythnos hon yn barod, wrth i fechgyn Chris Coleman baratoi i herio Gwlad Belg yn eu gêm ragbrofol fawr heno.

Gwlad Belg ydi’r ffefrynnau, ond mae Cymru’n hyderus hefyd ar ôl cipio dwy gêm gyfartal draw ym Mrwsel yn y flwyddyn a hanner ddiwethaf.

Ond beth yw barn newyddiadurwyr Gwlad Belg?

Iolo Cheung fu’n sgwrsio â Cedric De Volder ac Aernout van Lindt, o wefan voetbalkrant.com, cyn y gêm heddiw.

Beth wnewch chi o fygythiad Gareth Bale?

Cedric De Volder – “Roedden ni’n disgwyl mwy gan Bale a dweud y gwir, gyda Chymru a Madrid.”

Aernout van Lindt – “Cryfder Cymru yw’r tîm, ‘da chi’n gweithio gyda’ch gilydd yn dda, a dyw e ddim am un chwaraewr yn unig.”

CDV – “Dydyn ni ddim ofn Bale, heb geisio bod yn amharchus wrth gwrs, achos yn amlwg mae e’n chwaraewr gwych.”

Beth ydych chi’n ei ddisgwyl gan Gymru?

CDV – “Beth ‘da ni’n ei ofni ydi mynd ar ei hôl hi o 1-0, achos wedyn fe fyddai Cymru’n debygol o eistedd nôl ac amddiffyn.

“Pan wnaethon ni chwarae Ffrainc yn y gêm gyfeillgar roedden nhw’n dod allan i chwarae pêl-droed, ond rydyn ni’n amau na fydd Cymru’n gwneud hynny cymaint.”

AvL – “Bydden i’n disgwyl i Chris Coleman fod yn hapus gyda phwynt, ac felly fe fydd e’n ceisio gwneud yn siŵr fod ei dîm ddim yn colli.”

CDV – “Doedd y gêm gyntaf [yn erbyn Cymru, 1-1] ym Mrwsel ddim yn cyfrif, roedd Belg wedi cyrraedd Cwpan y Byd ac roedd hi’n fwy o barti.

“Ond yr ail gêm llynedd [0-0], roedden ni wir yn poeni ar adegau, fe allai hi fod wedi mynd naill ffordd neu’r llall. Ar y pryd dim ond pedwar pwynt oedd gennym ni yn y grŵp, felly roedden ni wir yn meddwl ‘jyst peidiwch â cholli’.”

Sut ‘dach chi’n gweld y grŵp yn siapio nawr?

CDV – “Bydden i ddim yn poeni gormod os yw Gwlad Belg yn cael gêm gyfartal [yn erbyn Cymru], mae pawb yn hyderus y gallwn ni ennill y grŵp.”

AvL – “Ond bydden i’n dweud, ar sail beth dw i wedi gweld hyd yn hyn, fod Cymru yn haeddu gorffen yn ail yn y grŵp.”

CDV – “Ar bapur falle bod Bosnia yn well, ond mwyaf dw i’n gweld Cymru mwyaf dw i’n meddwl eu bod nhw cystal.

“Fe chwaraeodd Israel yn dda am ddeg munud yn ein herbyn ni, ond dydyn nhw ddim yn dîm mor dda â hynny, dw i ddim yn meddwl eu bod nhw’n gymaint o fygythiad.”

AvL – “Bydden i ddim yn synnu petai Cymru yn ennill 1-0, ond fydden i ddim yn synnu petai Belg yn ennill rhywbeth fel 4-2 chwaith, fe allai fynd unrhyw ffordd.

“Mae’n edrych fel bod rhai o Gymru dal ddim yn hyderus eu bod nhw’n gallu cyrraedd yr Ewros. Maen nhw ‘chydig bach fel ni ‘chydig flynyddoedd yn ôl, gwrthod credu eu bod nhw’n gallu cyrraedd yno nes ei fod yn digwydd.

“Ond mae peryg y gallai hynny fod yn self-fulfilling prophecy.”