James Dunsby
Fe ofynnwyd i aelod o’r cyhoedd oedd yn cerdded ar fynydd Pen-y-Fan ym Mannau Brycheiniog i fonitro anadlu milwr fu farw yn ystod ymarferiad yr SAS mewn gwres tanbaid, clywodd cwest heddiw.

Roedd pedwar milwr arall yn ceisio rhoi cymorth meddygol i’r Corporal James Dunsby, 31, ar ôl iddo gael ei daro’n wael yn ystod yr ymarferiad ym mis Gorffennaf 2013.

Roedd y cerddwr, nad yw’n cael ei enwi yn y cwest, hefyd wedi gafael ym mhen James Dunsby wrth i’r milwyr ei gario o’r mynydd.

Cafodd y Corporal James Dunsby, 31, ei daro’n wael ar ôl gorboethi wrth iddo geisio rhedeg yn ystod cymal olaf y daith gerdded 16 milltir er mwyn cyrraedd ei darged amser, mewn tymheredd o bron i 30 gradd selsiws.

Dywedodd milwr, sy’n cael ei adnabod fel milwr 1K yn y cwest: “Fe wnaeth aelod o’r cyhoedd ddod atom ni i gynnig cymorth ychydig eiliadau ar ôl i mi a fy nghyd-weithiwr gyrraedd  y safle. Dywedais wrtho am sefyll yn ôl, ond y gallwn fod angen ei gymorth yn y man.”

Bu farw Craig Roberts, 24, o Fae Penrhyn ac Edward Maher, 31, hefyd yn dilyn y sesiwn hyfforddi.

Mae’r cwest yn Solihul yn parhau.