David Braddon
Mae dyn o Gaerffili wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio llanc mewn maes carafanau ym Mhorthcawl.

Roedd David Braddon, 26, o Gwrt Attlee, Caerffili wedi pledio’n euog i gyhuddiad o lofruddio Conner Marshall, 18, ym Mae Trecco ym Mhorthcawl ar 8 Mawrth.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw dywedodd y barnwr Mr Ustus Wyn Williams bod yr ymosodiad ar Conner Marshall yn un “ciaidd” a oedd wedi achosi anafiadau “erchyll”.

Ychwanegodd bod David Braddon wedi “cynllunio’r llofruddiaeth yn sylweddol”, ond fe glywodd y llys ei wedi camgymryd Conner Marshall am rywun arall:

“Ar ôl ei guro, roeddech chi eisiau ei gywilyddio. Fe wnaethoch ddefnyddio arfau ac yna penderfynu ffoi, gan ddefnyddio enw ffug.”

Fe wnaeth teulu Conner Marshall gymeradwyo ar ôl i’r ddedfryd gael ei chyhoeddi.

Bydd yn rhaid i Braddon dreulio o leiaf 20 mlynedd dan glo.

Ymosodiad

Cafwyd hyd i Conner Marshall mewn cyflwr difrifol y tu allan i garafán ym maes carafanau Bae Trecco ym Mhorthcawl yn oriau man y bore.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn dilyn yr ymosodiad.

Roedd wedi treulio nos Sadwrn mewn tafarndai ym Mhorthcawl gyda’i ffrindiau, cyn iddyn nhw ddychwelyd i’r maes carafanau toc cyn hanner nos.

Mae ditectifs yn credu i Connor Marshall benderfynu mynd am dro ar hyd y traeth, a dyna pryd ddigwyddodd yr ymosodiad. Clywodd y gwrandawiad heddiw ei fod yn debygol bod Connor Marshall wedi’i gamgymryd am rywun arall.

Wedi’r ymosodiad, cafodd Braddon ei arestio yng Nglasgow ar 13 Mawrth.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu eu bod yn ymfalchïo yn y ffaith bod Conner yn “unigryw ac yn ofalgar”.