Mae milwr dan hyfforddiant o ogledd Cymru fu farw mewn ymarferiad gyda’r Môr-filwyr Brenhinol yn Dartmoor wedi cael ei enwi.

Roedd yr is-gapten Gareth Jenkins, 25, o Fae Colwyn dan hyfforddiant gyda’r fyddin ac yn gorymdeithio 30 milltir fel rhan o brawf pan fu farw ddydd Iau.

Dywedodd llefarydd o’r Weinyddiaeth Amddiffyn fod ymchwiliad wedi dechrau ac nad oedd achos ei farwolaeth wedi ei gadarnhau.

Roedd ynghanol un o’r ymarferion olaf o gwrs 32 wythnos o hyd ar ôl ymuno a’r cwrs ym mis Awst.