Fe gynyddodd Guto Bebb ei fwyafrif yn yr etholiad diweddar
Mae Cadeirydd Cymdeithas Ceidwadwyr Aberconwy, Gary Burchett, wedi ymddiswyddo yn dilyn ffrae a ddaeth i’r amlwg rhyngddo a’r Aelod Seneddol Guto Bebb yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Roedd e-byst a ddaeth i law golwg360 fis diwethaf yn dangos bod Guto Bebb a Gary Burchett yng ngyddfau ei gilydd ac yn gwrthod ymgyrchu ar y cyd.

Mewn e-byst ymfflamychol, roedd Gary Burchett yn gwneud cyfres o sylwadau beirniadol am ymgyrch Guto Bebb gan ddweud ei fod yn ymgyrchu dros ei hun yn hytrach na’i blaid.

Cafodd Guto Bebb ei ailethol gyda mwyafrif o 3,999 – 601 yn fwy nag oedd ganddo yn 2010.

Yn ôl y BBC mae Gary Burchett wedi dweud iddo roi’r gorau iddi oherwydd rhesymau personol a busnes.