Llun o'r llety newydd a'r ganolfan ymwelwyr
Bydd cyfle unigryw i ymwelwyr gysgu yng nghysgod Castell Harlech yr haf hwn wrth i ganolfan ymwelwyr newydd agor ym mis Awst eleni, ac mae’r Gweinidog Diwylliant yn gofyn i’r cyhoedd am enw i’r llety newydd.

Datgelodd Ken Skates y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, adluniadau sy’n dangos sut y bydd llety moethus newydd yn edrych pan fydd yn agor ger un o safleoedd hanesyddol mwyaf poblogaidd Cymru yn ddiweddarach yn yr haf.

Fel rhan o brosiect ehangach gwerth £6m, sydd â’r nod o wella Castell Harlech a thwristiaeth ddiwylliannol yr ardal i ymwelwyr, mae’r gwaith ar y llety’n tynnu at y terfyn.

Wedi ei greu o hen westy a adeiladwyd ger y safle sy’n dyddio o’r 13eg ganrif, mae’r llawr isaf wedi cael ei drawsnewid yn llwyr i greu canolfan ymwelwyr modern, ac mae’r llawr cyntaf a’r ail lawr wedi cael eu haddasu’n bum llety moethus, gyda lle i hyd at ddau o bobl i gysgu ym mhob un.

Dywedodd Ken Skates ei fod yn awyddus i gael enwau ar gyfer y llety newydd a fydd yn adlewyrchu hanes cyfoethog Harlech, ac mae’n galw ar bobl Cymru i helpu drwy anfon eu hawgrymiadau i dudalen Facebook Cadw erbyn 26 Mehefin 2015.

‘Gwella profiad ymwelwyr’

Yn ôl y Gweinidog Diwylliant: “Nod y prosiect oedd gwella profiad yr ymwelwyr yng Nghastell Harlech, a mynd ati ar yr un pryd i greu ffrwd incwm arall i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r safle diwylliannol pwysig hwn.

“Gyda 45% o ymwelwyr o weddill y DU yn enwi ein heiddo hanesyddol fel eu rheswm am ymweld â Chymru, mae darparu cyfleusterau sy’n hybu atyniad treftadaeth unigryw ac eithriadol, yn rhwym o ychwanegu at apêl yr ardal.”

Llety hunan ddarpar

Ychwanegodd Ken Skates:  “Mae’r datblygiad yn cynnwys casgliad o lety hunan ddarpar neu â gwasanaeth ar gyfer dau, neu grwpiau rhwng dau a deg, a bydd yn ategu’r darparwyr eraill sydd yn yr ardal, sy’n darparu ar gyfer teuluoedd a grwpiau’n bennaf.

“Mae llety Castell Harlech yn adlewyrchu Strategaeth Twristiaeth Croeso Cymru ac mae’n siŵr o gryfhau’r hyn sydd ar gael yng ngogledd-orllewin Cymru.”