Bydd gwaith saith o artistiaid yn cael ei gynnwys mewn arddangosfa arbennig i nodi canrif a hanner ers sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia.

Bydd yr arddangosfa yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw rhwng Mai 17 a Gorffennaf 12 yn cynnwys gwaith Luned Rhys Parri, fu yn y Wladfa’n ddiweddar.

Cafodd ei thaith ei chefnogi gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, ac mi gynhyrchodd weithiau celf yn seiliedig ar ei hastudiaeth o fywyd y trigolion.

Bu’n cynnal gweithdai gyda phlant Ysgol yr Hendre, Trelew ac Ysgol Pentreuchaf yn Llŷn, ac mae gwaith y plant yn rhan o’r arddangosfa.

Bydd detholiad o waith Delyth Llwyd Evans de Jones, disgynydd i rai o’r ymsefydlwyr cynharaf, yn rhan o’r arddangosfa.

Roedd hi’n adnabyddus am groniclo’i bywyd a’i chynefin ar gynfas, a bydd nifer o’i phaentiadau tirlun, portreadau, llyfrau brasluniau a ffotograffau i’w gweld.

Bydd rhai o’i ffotograffau, ynghyd â disgrifiadau yn ei llawysgrifen ei hun, ar werth yn ystod yr arddangosfa.

Yr artistiaid eraill y mae eu gwaith wedi’u cynnwys yn yr arddangosfa mae Karl Davies, Elin Huws, Elfyn Lewis, John Morris, Sue Morgan a Stephen J Owen.

Mae’r arddangosfa hefyd yn cyflwyno am y tro cyntaf waith argraffu gan Ruth Jên.

Mae portread hanesyddol o Syr Thomas Love Duncombe Jones Parry (1832-1892), sgweiar stâd Madryn, perchennog Plas Glyn y Weddw ar un cyfnod, ac un o sylfaenwyr y Wladfa yn ffocws i’r arddangosfa.

Mae’r portread a baentiwyd gan W.Fisher yn 1875 wedi ei adfer gan gadwriaethwyr yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa yma diolch i gymorth ariannol gan Gyfeillion Plas Glyn y Weddw a Chymdeithas Amgueddfeydd Annibynnol mewn cydweithrediad gyda The Pilgrim Trust.

Fel rhan o raglen ffilm yr Oriel a’r ffilm gyntaf o dan y thema newydd ‘tir’, cyflwynir Pan, Plumas y Maté 2008 (Bara, Plu a Maté) triptych gan Carlos Pinatti mewn cydweithrediad â Gerald Conn a Christine Mills.

Mae’r ffilm yn creu naratif cyfansawdd am y berthynas rhwng y gwladfawyr Cymreig a’r Los Tehuelches, sef pobl frodorol y rhanbarth.

Ar ddydd Sadwrn y 6ed o Fehefin bydd diwrnod arbennig yn cael ei gynnal yn y Plas sef diwrnod dathlu Patagonia – mwy o fanylion ar y wefan www.oriel.org.uk.

Agorir yr arddangosfa gan Mari Emlyn, Cyfarwyddwr Artistig Galeri Caernarfon ar Fai 17 am 2 o’r gloch.