Mae Ynys Tudwal ger Abersoch
Mae’r anturiaethwr Edward Michael Grylls, neu Bear Grylls i’w ffans, wedi cyflwyno cais cynllunio i adeiladu llithrfa (slipway) ar ynys mae o wedi’i phrynu ym Mhen Llŷn.

Yn ôl y cais mae eisiau  adeiladu llithrfa ddur 110 troedfedd i alluogi gollwng dau gwch i’r môr, fyddai’n golygu tyllu i mewn i ochr y graig, a gosod ‘sgrin’ er mwyn gwarchod y cychod.

Fe brynodd Grylls Ynys Tudwal ger Abersoch yn 2001 ar brydles ac mae’n dueddol o dreulio cyfnodau yno dros yr haf gyda’i wraig Shara a’i blant Jesse, Marmaduke a Huckleberry.

Mae o eisoes wedi corddi’r dyfroedd unwaith yn barod trwy osod llithren fawr oedd yn mynd o Ynys Tudwal Fawr i’r môr, heb ganiatâd Cyngor Gwynedd.

Fe ofynnod am gael adeiladu jeti’r llynedd, gyda’r Cynghorydd Craig ab Iago yn dweud ei fod “yn byw ar blaned arall” wrth wneud hynny.

Pryderon

Gyda’r cais diweddaraf, mae pryder y gall sglein o’r llithrfa ddur fod yn weladwy o Abersoch.

“Dyma’i drydydd cynllun. Mae’n debyg ei fod angen rhywbeth yno ond dw i ddim yn gwybod sut y bydd yn gweithio,” meddai’r Cynghorydd Hywel Wyn Williams.

Mae Cyngor Gwynedd yn ymgynghori gyda’r cyhoedd ar y cais diweddara’.