Hedd Ladd Lewis yn sefyll o flaen Cofeb y Lusitania yn Cobh, de Iwerddon
Fe fydd hanesydd lleol o Sir Benfro yn mynd ar drywydd ei hen ewythr a Chymry eraill fu farw yn nhrychineb llong bleser y Lusitania yn 1915 mewn rhaglen radio arbennig heno.

I nodi canmlwyddiant suddo’r llong, bydd Hedd Ladd Lewis o Foncath, sy’n Athro Hanes yn Ysgol Dyffryn Teifi yn datgelu’r cysylltiad Cymreig â’r llong ac effaith y trychineb hanesyddol hwn ar gwrs y Rhyfel Mawr.

Wrth iddo ymchwilio i hanes ei deulu, fe sylweddolodd Hedd Ladd Lewis fod cefnder ei dad-cu, Owen Ladd, ymysg meirw’r Lusitania.

Yn ddiweddarach, fe sylweddolodd bod côr o Went hefyd ar y fordaith olaf honno ac yn dychwelyd adref ar ôl bod yn teithio America.

Mae’r rhaglen radio yn dilyn taith Hedd Ladd Lewis wrth iddo fynd drwy’r archifau gyda phytiau o lythyrau ac adroddiadau – gan gynnwys y llythyr olaf ysgrifennodd Owen Ladd i’w rieni cyn y fordaith, sy’n cael ei gadw yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Yr hanes

Ar 1 Mai, 1915 hwyliodd llong bleser y Lusitania o Efrog Newydd i Lerpwl yn cludo bron i 2,000 o deithwyr.

Ar 7 Mai, oddi ar arfordir Kinsale yn Iwerddon, croesodd y Lusitania lwybr llong danfor Almaeneg U-2. Trawyd y llong gan un torpido ac o fewn 18 munud roedd hi wedi suddo i waelod y môr gan foddi 1,201 o’i theithwyr.

Yn ddiarwybod i deithwyr y Lusitania y diwrnod hwnnw ‘roedd y llong, yn groes i gyfraith ryngwladol, yn cludo cargo o arfau rhyfel ar ei bwrdd.

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru heno am 6.15yh.