Mererid Hopwood
Bydd un o Brifeirdd Cymru’n cychwyn ymprydio ddydd Llun er mwyn tynnu sylw at ddadl Cymdeithas yr Iaith bod angen gwella’r Mesur Cynllunio cyn pleidlais yn y Cynulliad ddydd Mawrth.

Mae Mererid Hopwood yn mynd heb fwyd er mwyn ceisio rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i dderbyn gwelliant i’r Mesur – newid a fyddai yn gadael i gynghorwyr lleol ganiatáu neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith ar yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Mererid Hopwood ei bod yn ymprydio oherwydd bod y Mesur fel y mae yn “ateb gofynion datblygwyr mawrion ac nid anghenion y Gymraeg mewn cymunedau lleol”.

Angen codi tai i bobol leol

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, dim ond 16 asesiadau effaith iaith gafodd eu cynnal ar bron i 50,000 o geisiadau cynllunio rhwng 2010 a 2012 .

Mae’r ymgyrchwyr iaith hefyd yn dweud bod rhaid newid y ffordd mae targedau tai yn cael eu gosod fel eu bod yn adlewyrchu anghenion lleol. Mae niferoedd tai wedi bod yn bwnc llosg ar hyd Cymru mewn ardaloedd fel Wrecsam, Gwynedd a Chaerdydd.

Meddai’r Prifardd Mererid Hopwood: “Rwyf yn gwrthwynebu fel bydd y bleidlais ar Mai 5 yn rhoi rhwydd hynt i gyflymu a chanoli’r broses. Bydd grym yn cael ei roi yn nwylo llai o bobl drwy sefydlu paneli rhanbarthol gyda nifer o’u haelodau yn rhai anetholedig.

“Mae dal angen i’r Mesur gynnwys gorfodaeth i gynnal asesiadau iaith ar ddatblygiadau sylweddol a bod angen i awdurdodau lleol osod targedau tai yn unol ag anghenion lleol yn hytrach na gorfod derbyn amcan ffigyrau canolog.”

Bydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio ar y Mesur brynhawn Mawrth.