Federico Fernandez
Fe fydd mwy nag 16.3 miliwn o bobol yn y Caribî ac America Ladin yn cael blas ar Abertawe mewn rhaglen deledu am yr hyn sydd gan farchnad y ddinas i’w gynnig.

Fe fu criw teledu DIRECTV Sports yn y ddinas dros y penwythnos i ffilmio cyfweliadau yn y farchnad dan do hanesyddol ar gyfer rhaglen ‘Premier Plus’.

Mae gan dîm pêl-droed yr Elyrch ddau chwaraewr o Dde America yn eu carfan ar hyn o bryd – Federico Fernandez o’r Ariannin a Jefferson Montero o Ecwador.

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu yn yr Ariannin, Chile, Colombia, Ecwador, Periw, Puerto Rico, Wrwgwai a Venezuela.

Bydd rhai o ynysoedd y Caribî hefyd yn cael gweld y rhaglen, gan gynnwys Barbados, Bermiwda, Ynysoedd y Cayman, Gweriniaeth Dominica, Jamaica a St Lucia.

Yn ogystal â danteithion y ddinas, bydd y rhaglen hefyd yn rhoi sylw i Stadiwm Liberty, llwyddiant yr Elyrch wrth gyrraedd yr Uwch Gynghrair, a’r cefnogwyr lleol.

‘Codi proffil Abertawe’

Dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet dros Fentergarwch, Datblygiad ac Adfywio: “Mae llwyddiant parhaus yr Elyrch wedi gwneud byd o les wrth godi proffil Bae Abertawe fel cyrchfan i ymwelwyr ledled y byd, felly dylid rhoi cryn ganmoliaeth i bawb sydd ynghlwm wrth y clwb.

“Mae ymweliad y fath ddarlledwr mawr o America Ladin a’r Caribî yn dyst pellach i bwysigrwydd ac effaith statws Uwch Gynghrair yn y byd pêl-droed gan ei fod yn arwain at lefel o sylw na all arian ei brynu.

“Mae’n galonogol iawn na fydd y rhaglen yn canolbwyntio ar bêl-droed yn unig, ond y bydd hefyd yn cynnwys atyniadau hanesyddol fel ein marchnad dan do wych a chyfweliadau gyda phobol leol.”

Mae’r diwydiant twristiaeth eisoes yn cyfrannu dros £360 miliwn y flwyddyn i economi Bae Abertawe.