Fe allai cyffuriau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer osteoporosis (clefyd esgyrn brau) gael eu defnyddio i reoli’r fogfa, neu asthma, yn ôl adroddiad newydd gan wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd a dwy brifysgol arall.

Mae gwyddonwyr wedi darganfod y gallai’r cyffuriau, sy’n cael eu hadnabod fel calcilytics, wyrdroi’r holl symptomau sy’n gysylltiedig ag asthma, sy’n effeithio 300 miliwn o bobl yn fyd-eang.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, fu’n gweithio gyda gwyddonwyr yn King’s College, Llundain a’r Mayo Clinic yn yr Unol Daleithiau, wedi darganfod gwraidd yr hyn sy’n achosi’r fogfa sef derbynle synhwyro calsiwm (CaSR).

‘Hynod o gyffrous’

Dywedodd yr Athro Daniela Riccardi o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd fod y darganfyddiad yn “hynod o gyffrous”.

Nid yw 5% o bobl sy’n dioddef o asthma yn ymateb i driniaethau cyfredol felly fe allai’r darganfyddiad yma newid bywydau cannoedd ar filoedd o bobl, meddai Dr Samantha Walker o Asthma UK.

Mae’r Athro Riccardi a’r ymchwilwyr eraill yn ceisio sicrhau arian er mwyn gallu darganfod effeithlonrwydd y cyffuriau wrth drin pobl gyda’r fogfa ac yn credu y gallai’r cyffuriau yn y pen draw atal y fogfa rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Mae’r gwaith ymchwil wedi’i gyhoeddi yng nghylchgrawn Science Translational Medicine.