Jeremy Hunt
Mae ymgeisydd seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer sedd Sir Drefaldwyn wedi galw am ymddiheuriad gan Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Jeremy Hunt.

Y llynedd, roedd Hunt wedi cyhuddo cleifion o ardaloedd ar y ffin o roi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd drwy deithio i ysbyty yn Henffordd i gael triniaeth.

Mae Jane Dodds wedi galw ar Hunt i ymddiheuro, gan fynnu bod ei sylwadau’n rhoi’r argraff nad oes croeso i gleifion o Gymru yn yr ysbyty yn Henffordd.

Fis Hydref y llynedd, ysgrifennodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams at Hunt ynghylch ei sylwadau, ond ni chafodd ateb ganddo.

Mae Jeremy Hunt yn ymweld â’r Drenewydd heddiw.

‘Dim ymddiheuriad’

Mewn datganiad, dywedodd Jane Dodds gan gyfeirio at Aelod Seneddol Trefynwy, David Davies: “Mae’n warthus fod rhai ASau Torïaidd wedi disgrifio cleifion o Gymru fel ‘ffoaduriaid’.

“Mae Jeremy Hunt yn ddigon hy i ymweld â chanolbarth Cymru a siarad am ofal iechyd trawsffiniol ond mae e wedi methu ag ymddiheuro am wneud i bobol Sir Drefaldwyn deimlo nad oes croeso iddyn nhw mewn ysbytai yn Lloegr – hyd yn oed pan fod perffaith hawl ganddyn nhw wneud hynny.”

‘Pwysau ychwanegol’

Mae Jane Dodds hefyd wedi cyhuddo Hunt o roi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd yn sgil ei sylwadau.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru bob amser wedi gwneud Llywodraeth Lafur Cymru’n atebol am eu methiannau o ran y Gwasanaeth Iechyd, ond wedi gwneud hynny drwy roi cleifion a staff yn gyntaf.

“Byddem yn croesawu camau positif i wella amserau aros ar gyfer cleifion o ganolbarth Cymru yn Amwythig, Telford a Gobowen er enghraifft, lle bu’n rhaid i rai pobol aros hyd at flwyddyn am driniaeth.

“Mae agwedd y Torïaid tuag at ein Gwasanaeth Iechyd yn gadael cleifion i lawr ac yn gostwng moral staff sy’n gweithio’n galed.

‘Aneurin Bevan yn troi yn ei fedd’

Daw sylwadau Jane Dodds ar y diwrnod y dywedodd Jeremy Hunt y byddai cyflwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n gwneud i’w sylfaenydd Aneurin Bevan “droi yn ei fedd”.

Ar ymweliad â Chasnewydd heddiw, dywedodd Hunt wrth BBC Cymru: “Mae gyda ni bobol sy’n croesi’r ffin er mwyn aros gyda pherthnasau yn Lloegr, gan rentu tai yn Lloegr am na allan nhw gael mynediad i’r cyffuriau diweddaraf.

“Mae hynny’n drafesti o egwyddorion craidd y Gwasanaeth Iechyd, cafodd y Gwasanaeth Iechyd ei sefydlu gan Gymro a fyddai’n troi yn ei fedd, yn blwmp ac yn blaen, pe bai’n gallu gweld y ffordd mae Llafur wedi bod yn rhedeg y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.”