Yr Athro Sally Holland
Mae gormod o drafod yn digwydd yng Nghymru ymhlith oedolion, heb glywed gan blant yn uniongyrchol, yn ôl Comisiynydd Plant newydd Cymru wrth iddi gychwyn yn ei swydd heddiw.

Bydd yr Athro Sally Holland, fu’n gweithio yn  Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, yn cyhoeddi cynlluniau i lansio ymgynghoriad ar raddfa fawr i blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru ynghylch sut gallai eu bywydau gael eu gwella.

Wrth sôn am ei dyheadau yn ei swydd fel comisiynydd, dywedodd yr Athro Holland: “Mae rhai grwpiau o blant allan o’n golwg – plant sydd mewn gofal, plant ag anableddau, plant â phroblemau iechyd meddwl, i enwi ond ychydig. Dydw i ddim eisiau iddyn nhw ddiflannu o’r hyn yr ydym yn gallu ei weld.

“Dydw i ddim eisiau iddyn nhw fod yn ddinasyddion goddefol; yn hytrach dylen nhw gael eu galluogi i fod yn ddinasyddion actif, sy’n gofyn llawer, ac yn cyfrannu hefyd. Yr her i bob un ohonom yw creu gwlad sy’n gosod gwerth ar blant fel dinasyddion yma, nawr.”

‘Llais i blant Cymru’

Mae’n teimlo mai ei rôl yw bod yn llais i blant Cymru, fel yr eglurodd: “Fel Comisiynydd Plant, fy rôl i yw bod yn llais i holl blant a phobl ifanc Cymru, ond os wyf fi i fod yn bencampwr effeithiol rydw i eisiau clywed ganddyn nhw beth maen nhw’n teimlo dylwn i fod yn codi llais yn ei gylch, a ble dylwn i wneud y defnydd gorau o’m pwerau cyfreithiol.”

Eleni bydd yr Athro Holland, ynghyd â Chomisiynwyr Plant eraill y Deyrnas Unedig, yn adrodd i’r Cenhedloedd Unedig ynghylch perfformiad Llywodraeth Cymru a’r Llywodraethau datganoledig eraill, yn ogystal â Llywodraeth y DU, ar hawliau plant.

‘Blwyddyn arwyddocaol’

Ychwanegodd yr Athro Holland: “Mae hon yn flwyddyn arwyddocaol i hawliau plant yng Nghymru. Rydw i am gyfleu i’r Cenhedloedd Unedig, yn ogystal ag i Lywodraeth Cymru, y gwir am fywydau plant yng Nghymru. Y ffordd fwyaf ystyrlon i’r tîm a minnau wneud hynny yw cwrdd â siarad â phlant, pobl ifanc a’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw ac yn gweithio drostyn nhw.

“Byddwn ni’n treulio’r rhan fwyaf o’r flwyddyn hon yn trafod y prif faterion mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu ac yn lansio digwyddiad ymgynghori pwysig ym mis Medi, i gasglu barn pobl am y pethau maen nhw’n meddwl y dylwn i fod yn eu gwneud fel Comisiynydd Plant.”

‘Llysgennad effeithiol’

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi:   “Rwy’n croesawu’r Athro Sally Holland yn gynnes i’r rôl bwysig hon. Dylai ei phrofiad ym meysydd gwaith cymdeithasol a hawliau plant a’i hymrwymiad i rymuso plant a phobl ifanc ei gwneud yn llysgennad effeithiol drostynt.
“Mae gan Gymru hanes cryf o hybu hawliau plant, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r Athro Holland i sicrhau bod hyn yn parhau. Rwy’n croesawu ei bwriad i neilltuo amser i gwrdd â phlant a phobl ifanc ym mhob rhan o Gymru, gan ei bod hi’n hanfodol i leisiau plant gael eu clywed, a bod eu hawliau’n cael eu diogelu a’u hadlewyrchu yn ein rhaglenni a’n polisïau.”