Fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yng Nghymru heddiw i lansio maniffesto Cymreig y Ceidwadwyr cyn yr etholiad cyffredinol.

Mae disgwyl iddo ddweud bod “pobol yng Nghymru yn gwybod mwy na digon am y difrod mae Llafur yn medru ei wneud”.

Prif addewidion y blaid yw torri trethi ar gyfer dros filiwn o bobol yng Nghymru a chynyddu’r arian sydd ar gael i’r Gwasanaeth Iechyd.

Mae’r maniffesto hefyd yn cynnwys cynlluniau i gefnogi’r diwydiant aerofod ac amddiffyn yng Nghymru yn ogystal â chynnig i geisio denu Gemau’r Gymanwlad i’r wlad.

Treth

Yn dilyn yr etholiad mae’r Ceidwadwyr yn addo codi’r swm gall pobol ennill cyn cychwyn talu treth i £12,500 – gan honni y bydd 1.4 miliwn o bobol yn elwa.

Fe fydden nhw hefyd yn sicrhau nad yw gweithwyr ar yr isafswm cyflog yn talu treth ar y 30 awr gyntaf maen nhw’n gweithio pob wythnos.

Ac yn sgil gwariant ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, maen nhw’n dweud bod arian yn ychwanegol am fod ar gael i Lywodraeth Cymru wario ar y Gwasanaeth Iechyd.

Wyth sedd sydd gan y Ceidwadwyr yng Nghymru ar hyn o bryd.