Colorama, un o'r grwpiau fydd yn perfformio yn yr ŵyl
Bydd gŵyl newydd sbon wythnos o hyd yn cael ei chynnal yn Aberteifi’r haf hwn.

Blog ‘Caught By The River’ yw prif drefnwyr yr ŵyl wythnos o hyd, a bydd yr wythnos wedi ei rhannu rhwng dau leoliad.

Mae Caught By the River yn flog sy’n dathlu holl bethau’r awyr agored fel “pysgota, gwylio adar, cerdded, yfed, gwrando a byw.”

Bydd rhan gyntaf yr ŵyl, rhwng 10-15 Awst, yn cael ei chynnal ar faes gwersylla cyfforddus Fferm Fforest, a bydd yn cynnwys siaradwyr gwadd a gweithdai amrywiol – o ddysgu sut mae byw yn y gwyllt i baentio a ‘sgwennu creadigol.

Ymysg y rhai fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiadau yn ystod yr wythnos mae’r cantorion Jeb Loy Nichols a Rob St John, yr academydd Nina Lyon a’r artist Pete Fowler.

Afon Teifi

Yna, ar benwythnos 14 ac 15 Awst, bydd yr ŵyl yn symud i safle ar lan yr Afon Teifi ger Aberteifi ble fydd bandiau, cantorion a DJs o Gymru a thu hwnt, sydd wedi eu dewis gan Caught By The River a’r hyrwyddwyr cerddoriaeth NYTH, yn perfformio.

Rhai o’r bandiau ac artistiaid Cymraeg sydd eisoes wedi eu cyhoeddi yw Colorama, Trwbador, CaStLes, Ysgol Sul a Carw.

Dywedodd Gwyn Eiddior, un o drefnwyr Nyth: “Does bosib fod llawer o leoliadau gwell ar gyfer cynnal gŵyl nag ar lannau’r Teifi.

“Mae o’n le arbennig a gyda siaradwyr a cherddoriaeth o bob rhan o Gymru a thu hwnt, mae hi’n argoeli i fod yn benwythnos a hanner.”

Gellir cael rhagor o wybodaeth yma.