Huw Thomas

Mae’r dyn sydd wedi galw am ymddiswyddiad ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion wedi ymddiheuro am sylwadau ymosodol a wnaeth ef ei hun am fewnfudwyr o Loegr.

Yn 2006 roedd ymgeisydd y Blaid Lafur yng Ngheredigion wedi dweud bod cymdeithas Cymru wedi cael ei “infiltratio gan fewnfudwyr sydd ddim yn barod i integreiddio”.

Fe wnaeth Huw Thomas y sylwadau mewn neges ar wefan Maes-e, wrth drafod baneri Saesnig “cyfoglyd” a Saesnigrwydd yng Nghymru yn ystod Cwpan y Byd.

Mewn neges hir, dywedodd bod “y system addysg wedi methu a chreu cenedlaetholdeb Cymraeg” ymysg pobl ifanc o Gymru oedd yn “deyrngar i Loegr”.

Awgrymodd hefyd mai dim ond “simpleton” neu “casual racist” fyddai’n derbyn baner Lloegr, gan annog pobl i fandaleiddio ceir oedd yn cario’r baneri.

Daeth hyn i’r amlwg ddeuddydd yn unig ar ôl i Huw Thomas alw ar ymgeisydd Plaid Cymru Ceredigion, Mike Parker, i gamu lawr dros sylwadau a wnaeth yntau mewn erthygl gylchgrawn yn 2001.

Ymddiheuro o waelod calon

Mewn datganiad i wefan golwg360, mae Huw Thomas yn dweud ei fod yn ymddiheuro am y sylwadau a wnaed ganddo yn 2006.

Meddai: “I apologise wholeheartedly for these comments, made while I was a young student. These are not my views now and I deeply regret writing this post online.

“Every candidate at this election will have gone through a political journey. Most will have said or thought things when they were young and at university, college or school that they now regret. This is certainly the case for me.

“The people of Ceredigion deserve an MP that will stand up for them and fight for our communities. They also deserve an MP that will admit when they are wrong.”

Annog fandaleiddio

Yn y neges a bostiodd ‘Huw T’ ar Maes-e, mae’n dweud ei fod yn teimlo’n “gyfoglyd” gweld cymaint o faneri Lloegr o gwmpas Cymru a’u bod yn arwydd o “infiltratio gan fewnfudwyr sydd ddim yn barod i integreiddio”.

Mae’n mynd ymlaen i awgrymu bod y rhan fwyaf o’r Cymry hyn sydd yn cefnogi Lloegr yn “chavs”, a bod siopau yn euog o “wneud y sefyllfa’n waeth” wrth roi baneri Lloegr allan am ddim.

Dywedodd ei fod yntau wedi gwrthod derbyn baner Lloegr gan siop “since I am neither a simpleton nor a casual racist”.

Mae’n gorffen y neges wrth annog pobl i fandaleiddio ceir sydd â baner Lloegr wrth arllwys sylwedd Tippex ar y cerbydau.

Mae Huw Thomas wedi anfon neges Twitter yn y gorffennol yn dweud mai ef oedd ‘Huw T’ ar wefan Maes-e.

Rhagrith?

Dim ond deuddydd yn ôl y dywedodd Huw Thomas y dylai Mike Parker gamu lawr fel ymgeisydd Plaid Cymru ar ôl i erthygl yr oedd e wedi ei ysgrifennu yn 2001 ddod i sylw papur lleol.

Yn yr erthygl roedd Mike Parker wedi dweud bod rhai Saeson a ddaeth i Gymru yn ymdebygu i “gun-toting Final Solution crackpots” o America.

Wrth alw ar Mike Parker i gamu o’r neilltu, dywedodd Huw Thomas: “Ni ddylai fod lle yn ein gwleidyddiaeth na’n cymdeithas ar gyfer y fath iaith gasineb sydd yn gallu achosi rhwyg.”

Plaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol uwchlaw taflu baw

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru Ceredigion bod y sylwadau a wnaeth Huw Thomas yn ddim o’u busnes nhw.

“Mae ffocws Mike Parker a Phlaid Cymru ar siarad gyda phobl yng Ngheredigion. Ein argraff ni yw fod gan bobl ddim diddordeb mewn ymosodiadau personol rhwng gwleidyddion,” meddai’r llefarydd.

“Ry’n ni eisiau sôn am y pynciau go-iawn i Geredigion, a chynnig dewis amgen i doriadau trychinebus y pum mlynedd diwetha, fel buddsoddi mewn trafnidiaeth a band-llydan, gwarchod ein gwasanaeth iechyd a chefnogi busnesau bach.”

Neges debyg oedd gan ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion Mark Williams.

“Mae’r mynd a dod parhaus yma yn tynnu sylw oddi ar beth sydd wir yn bwysig yn yr etholiad yma,” meddai Mark Williams.

“Mae’n rhaid i bobl Ceredigion benderfynu pa ymgeisydd sydd yn ddigon cryf i fod yn lais iddyn nhw yn San Steffan.

“Pob diwrnod rydw i allan yn cnocio drysau a thrafod y materion sydd wir o bwys i bobl.”

Sylwadau Huw Thomas yn 2006 ar Faes-e: