Ioan Hefin
Bydd yr actor a’r darlithydd Ioan Hefin yn ymddangos mewn ffilm gan y cyfarwyddwr enwog, Tim Burton, ynghyd â chast sy’n cynnwys Samuel L Jackson, Eva Green, Judi Dench a Rupert Everett.

Mae’r ffilm yn addasiad Tim Burton o nofel yr awdur Ransom Riggs, Miss Peregrine’s Home for Peculiar Children.

Enw’r ffilm fydd Peregrine’s Home for Peculiars, ac mae disgwyl iddi gael ei rhyddhau yn 2016.

Disgwylir i’r ffilm  ddenu cynulleidfa eang oherwydd poblogrwydd llyfr Ransom Riggs. Cyrhaeddodd y llyfr restr o werthwyr gorau’r New York Times, gan gyrraedd brig rhestr y ‘Children’s Chapter Books’.

Dechreuodd Ioan Hefin ffilmio’r wythnos hon a bydd yn treulio bythefnos ar leoliad dros y mis nesaf.  Mae’r llyfr wedi’i lleoli ger arfordir Cymru.

‘Profiadau personol’

Mae Ioan Hefin, sy’n actor proffesiynol ers 1986, hefyd yn ddarlithydd ar raglen BA Actio Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Dywedodd: “Un o’r modylau rwy’n ei addysgu yw ‘Y Diwydiant Perfformio’ lle gallwn drafod realiti y diwydiant o safbwynt ymarferwr. Gallaf dynnu ar fy mhrofiadau personol a gobeithio rhoi gwell syniad iddyn nhw ynglŷn â beth i’w ddisgwyl ac i baratoi amdano.”

Mae’n teimlo fod angen dyfalbarhad wrth geisio cyflawni uchelgeisiau, fel yr eglurodd, “Mae’n bwysig bod myfyrwyr yn deall natur y diwydiant maen nhw’n mynd i mewn iddo, yr angen i ddyfalbarhau a chadw i fynd dro ar ôl tro er mwyn cyflawni’u huchelgeisiau a chynnal eu hymrwymiad. Mae perfformio yn alwedigaeth ac yn angerdd, ond nid bob amser ffrwd incwm.  Nid oes ‘fformwla’ i lwyddo yn y diwydiant hwn, fel actor nid ydych byth yn gwybod sut bydd pethau’n troi allan.”

‘Ail-ddiffinio’

Ychwanegodd, “Rwy’n credu’n gryf y dylai unrhyw un sy’n cyflenwi yn y maes perfformio o fewn addysg uwch hefyd ymgysylltu’n uniongyrchol â’r diwydiant, am fod pethau’n datblygu ac yn newid yn gyson, mae angen i’r berthynas rhwng y byd addysg a’r byd galwedigaethol  gael eu hail-ddiffinio yn barhaus.”

Mae ei waith proffesiynol yn cwmpasu radio, ffilm, teledu a gwaith corfforaethol, yn cynnwys ‘Y Gwyll/Hinterland’ (Fiction Factory/BBC), ‘The Darkest Day’ (Lindisfarne Films), ‘Aiden Melberg’ (BBC Radio Cymru), ‘The Boy who went fishing for compliments’ (RBC), ‘Teulu’ (S4C), ‘Gwaith Cartref’ (S4C) a ‘Pen Talar’ (S4C).