Mike Parker
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood i fynnu ymddiheuriad llawn gan ymgeisydd y blaid yng Ngheredigion, Mike Parker.

Daeth i’r amlwg fod Mike Parker wedi gwneud sylwadau am fewnfudwyr o Loegr mewn erthygl yn Planet yn 2001. Mae ei sylwadau yn cael sylw yn y Cambrian News yr wythnos hon.

Mae Plaid Cymru wedi amddiffyn yr ymgeisydd, gan ddweud ei fod yn sylweddoli bod ei sylwadau’n “amhriodol”.

Mewn datganiad ar ei dudalen Facebook, dywedodd Mike Parker ei fod yn cyfeirio at leiafrif o bobol hiliol oedd wedi symud i Gymru er mwyn “dianc rhag cymunedau amlddiwylliannol mewn mannau mwy trefol”.

Dywedodd na fyddai’n defnyddio’r fath iaith erbyn hyn, ond ei fod “o’r farn o hyd na ddylid anwybyddu na derbyn hiliaeth”.

‘Angen dangos arweiniad’

Ond mewn datganiad, dywedodd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black: “Mae angen i Leanne Wood ddangos ychydig o arweiniad a mynnu ymddiheuriad cyhoeddus llawn gan ei hymgeisydd.

“Naill ai mae’n tynnu’r sylwadau hyn yn ôl neu mae angen iddi hithau esbonio a yw’n cynrychioli polisi Plaid Cymru.

“Ni ddylid ysgubo’i sylwadau ymosodol o dan y carped.

“Hyd yn hyn, mae Mr Parker wedi gwrthod ymddiheuro am yr iaith ymosodol a ddefnyddiodd.

“Hyd yn oed nawr, mae’n amddiffyn ei safbwyntiau fel rhai ‘dilys’. Dydyn nhw ddim yn ddilys. Yn syml iawn, maen nhw’n ymosodol.”

‘Achosi rhwyg’

Mae’r Blaid Lafur hefyd wedi ymateb drwy alw ar Mike Parker i gamu o’r neilltu.

Dywedodd ymgeisydd Llafur Huw Thomas: “Ni ddylai fod lle yn ein gwleidyddiaeth na’n cymdeithas ar gyfer y fath iaith gasineb sydd yn gallu achosi rhwyg.”

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Roedd [Mike Parker] yn ymateb i sylwadau negyddol a bychanol a glywodd ar y pryd fel rhywun oedd wedi symud i Geredigion o Kidderminster.

“Mae Mike wedi gwrthwynebu hiliaeth a neilltuo mewn modd ffyrnig iawn ac yn yr erthygl yma, roedd yn mynegi pryder am agweddau hiliol roedd wedi dod ar eu traws.”

‘Mater i’w blaid e’

Wrth ymateb i’r erthygl dywedodd ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion, Mark Williams, fod y sylwadau gan Mike Parker yn rhai “amhriodol”.

Ond fe bwysleisiodd Mark Williams, a ddywedodd ei fod wedi darllen y Cambrian News ond nid yr erthygl wreiddiol gan Mike Parker yn Planet yn 2001, mai mater mewnol i’w blaid ydoedd.

“Mae hyn yn fater i Blaid Cymru, dydw i ddim am ychwanegu fy llais i at y drafodaeth yma o ‘a ddylai e gamu lawr ai peidio’,” meddai Mark Williams.

“O ran y sylwadau a wnaeth e [bod pobl hiliol o Loegr wedi symud i Geredigion] dyw hwnnw ddim yn ddarlun dw i yn ei adnabod o’r etholaeth rydw i wedi ei chynrychioli ers deng mlynedd.

“Mae’r etholaeth yma yn oddefgar, croesawgar, cynnes a chosmopolitan, ac yn gymuned gref.”

Trafod y ‘pethau pwysig’

Mark Williams a Mike Parker yw’r ddau geffyl blaen yn y frwydr am sedd Ceredigion yn etholiad 2015, ac mae’r ddau ohonynt yn dod o Loegr yn wreiddiol.

Ac fe awgrymodd ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol nad oedd tôn y darn a ysgrifennodd Mike Parker yn 2001 yn un oedd yn gyfarwydd iddo.

“Dw i wedi cyfarfod Mike Parker ar sawl achlysur, a dyw hynny ddim yn taro fi fel y math o iaith y byddai’n ei ddefnyddio i ddisgrifio ei gyd-ddinasyddion,” meddai Mark Williams.

“Mae’r sylwadau yn rhai amhriodol.”

Awgrymodd, fodd bynnag, bod materion pwysicach i ganolbwyntio arnyn nhw yng Ngheredigion na’r sylwadau hynny sydd wedi dwyn y sylw heddiw.

“Mae’r bobl nes i siarad â nhw heddiw ar y stepen ddrws eisiau trafod y pethau pwysig dydd i ddydd, pethau fel prisiau tanwydd, treth a gwasanaethau ym Mronglais,” ychwanegodd.

“Mae angen i ni ganolbwyntio ar y pethau sydd wir yn effeithio Ceredigion.”

Mae’r Blaid Geidwadol yng Nghymru hefyd wedi dweud bod ei sylwadau yn “bryderus iawn” ac wedi galw am ymchwiliad llawn.