Dr David Hill
Mae meddyg o Ogledd Cymru wedi annog staff eraill o fewn y gwasanaeth iechyd i fod yn fwy hyderus ynglŷn â defnyddio’u Cymraeg, er nad oes angen medru’r iaith er mwyn cael swydd yn y maes.

Dywedodd Dr David Hill bod ennill Dysgwr y Flwyddyn mewn gwobrau yn y maes iechyd llynedd wedi “codi ei hyder” wrth ddefnyddio’r iaith gyda chleifion yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Yn gynharach eleni fe awgrymodd yr Athro David Gallen, pennaeth y corff sydd yn gyfrifol am addysgu doctoriaid a deintyddion yng Nghymru, y gallai pryderon am yr iaith rwystro staff rhag symud yma.

Ond fe fynnodd Dr David Hill bod ffactorau eraill yn cynnig esboniad gwell pam bod doctoriaid yn amharod i symud i gefn gwlad Cymru.

Dim ‘angen’ y Gymraeg

Pwysleisiodd Dr David Hill, sydd yn gweithio yn adran Clust Trwyn a Gwddf Ysbyty Gwynedd, nad oedd angen i ddoctoriaid oedd yn ceisio am swyddi yn ysbytai Cymru fod yn medru’r iaith.

Ond fe awgrymodd na fyddai’n beth drwg annog staff sydd eisoes yn gweithio mewn ardaloedd Cymreig i wneud mwy o ymdrech i ddefnyddio’r Gymraeg.

“Codi sgwarnog maen nhw yn fy marn i,” meddai David Hill wrth golwg360, gan gyfeirio at y pryderon gafodd eu codi am yr iaith.

“Cymraeg ydi prif iaith cleifion, nyrsys  a hanner y doctoriaid yn yr ardal yma.  Ydan ni wir yn mynd i beidio annog doctoriaid newydd i beidio dysgu Cymraeg?

“Hyd yn oed os na allen nhw ddal sgwrs gyfan yn Gymraeg, byddan nhw yn medru deall rhywfaint.

“Yn yr hir dymor bydd yna fwy o ddoctoriaid a consultants yn cael eu meithrin yn lleol, ac yn medru dychwelyd i lenwi’r swyddi gweigion ar ôl eu blynyddoedd yn hyfforddi.

“Nid oes yr un ‘angen’ i siarad Cymraeg pan mae’n dod i swyddi academaidd.  Mae’r rhain yn cael eu hapwyntio ar sail merit. Mae’r swyddi hyn yr un mor anodd eu llenwi a’r swyddi consultants.”

Byw yn y ddinas

Bywyd y ddinas, yn hytrach na phryderon am yr iaith, sydd yn bennaf gyfrifol am benderfyniad llawer o ddoctoriaid ifanc i beidio â symud i gefn gwlad Cymru, yn ôl Dr David Hill.

“Efallai ei bod yn wir dweud fod llawer o bobl yn cael eu denu gan awyrgylch fwy dinesig lle mae dewis o fwytai, chwaraeon a sinema ar eich stepen drws,” ychwanegodd y meddyg.

“Pe gallai pobl gael gwared a’r angen am yr adnoddau arwynebol hyn er mwyn mwynhau eu bywydau, efallai wedyn y gallan nhw sylweddoli beth sydd gan fyw a gweithio yng Ngogledd Cymru i’w gynnig?”

Y gwobrau iechyd

Y llynedd fe enillodd Dr David Hill ‘dysgwr y flwyddyn’ yng ngwobrau Gwireddu’r Geiriau y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae’r gwobrau yn cydnabod y rhai sydd wedi gweithio tuag at sicrhau gwasanaeth Cymraeg i gleifion, ac maen nhw’n agored i grwpiau a sefydliadau’r GIG a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, grwpiau gwirfoddol, sefydliadau Addysg Uwch a Phellach, Awdurdodau Lleol ac unigolion.

Dywedodd Dr David Hill fod ei wobr llynedd wedi cynyddu ei hyder wrth ddefnyddio’r iaith, ai fod yn ei hystyried hi’n bwysig siarad Cymraeg gyda phlant ifanc a’r henoed yn enwedig er mwyn dangos “parch at ddwyieithrwydd ein cymunedau”.

“Mi wnaeth y wobr godi fy hyder i ddefnyddio’r Gymraeg sydd gen i, yn arbennig wrth siarad efo cleifion yn yr adran cleifion allanol, ac efo staff yn y theatr llawdriniaeth, lle mae’r mwyafrif o staff yn siaradwyr Cymraeg,” meddai Dr David Hill.

Mae’r cyfnod enwebu ar gyfer gwobrau Gwireddu’r Geiriau eleni yn cau  heddiw (7 Ebrill.)