Yn Llys y Goron Caerdydd, mae dau ddyn wedi pledio’n euog i ladrata o ddau fanc yn ne Cymru, gan ddefnyddio ffrwydron er mwyn dwyn arian o beiriannau twll-yn-y-wal.

Fe blediodd Russel Luke Bennett, 21, o Fryste, yn euog i gynllwynio i achosi ffrwydriad, ac i un cyhuddiad arall o fwrgleriaeth.

Fe blediodd Benjamin Brian Barrett, 30, o Fryste, hefyd yn euog o gynllwynio i achosi ffrwydriad, ac i ddau gyhuddiad o fwrgleriaeth.

Dau ffrwydriad

Fe ddechreuodd Heddlu De Cymru ymchwilio ar Hydref 25 y llynedd, wedi i beiriant arian Banc Barclays ar Main Avenue, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, gael ei ddifrodi gyda ffrwydron. Fe gafodd £45,000 ei ddwyn o’r safle.

Ychydig dros wythnos yn ddiweddarach, ar Dachwedd 2, fe gafodd peieriant arian banc Barclays ar Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr ei ddifrodi yn yr un modd, ac fe gafodd £36,000 ei ddwyn.

Fe fydd y ddau ddyn yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar Ebrill 30, i’w dedfrydu.