Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio am wyntoedd cryfion ledled Cymru heddiw.
Gallai’r gwyntoedd gyrraedd cyflymdra o 65 milltir yr awr mewn mannau, ac mae rhybudd i deithwyr fod yn ofalus.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio am oedi posib i drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y dydd.
Mae Pont Hafren ar gau i’r ddau gyfeiriad ar hyn o bryd, ond mae disgwyl i’r gwynt gostegu rywfaint yn ystod y prynhawn.
Bydd y gwyntoedd ar eu cryfaf yn ne Cymru drwy gydol y dydd, ac mae rhybuddion yn eu lle yn Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot a Sir Fynwy.