Mae Cyngor Sir Powys gam yn nes at adeiladu campws newydd gwerth £50m gan ddarparu addysg ar gyfer disgyblion 11-16 oed.

Mae’r cynllun yn cynnwys creu coleg chweched dosbarth newydd yn Aberhonddu ond byddai’n golygu bod ysgolion uwchradd Aberhonddu a Gwernyfed yn cau.

Fe allai’r cynlluniau yn adroddiad diweddaraf y gweinidog cabinet dros addysg weld addysg cyfrwng Gymraeg yn cael ei symud o Aberhonddu i Lanfair ym Muallt fel rhan o’r newidiadau.

Mae’r cyngor yn parhau i edrych ar yr achos busnes dros gau ysgolion yn y sir i geisio delio â niferoedd llai o ddisgyblion.

Addysg Gymraeg

Fel rhan o’r cynlluniau hynny mae’r Cyngor wedi argymell rhoi’r gorau i addysg cyfrwng Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu ac yn hytrach annog y disgyblion hynny i symud i Lanfair ym Muallt, ble bydd yr addysg honno’n parhau.

Yn ôl y cyngor mae hyn oherwydd bod y niferoedd yn ffrydiau Cymraeg y ddwy ysgol yn isel, ac y byddai canoli’r ddarpariaeth mewn un ysgol yn gwella’r addysg hwnnw.

Dywedodd y cyngor y byddan nhw’n darparu’r cludiant angenrheidiol i ddisgyblion allu mynychu’r ysgol ble byddai addysg cyfrwng Gymraeg.

Byddan nhw hefyd yn parhau â’r trefniant cludiant ble mae rhai disgyblion yn teithio i Ysgol Gyfun Ystalyfera yng Nghastell Nedd Port Talbot am eu haddysg Gymraeg.

Campws Aberhonddu

Dywedodd Cyngor Powys eu bod hefyd yn awyddus i fwrw ymlaen â chynlluniau i gau ysgolion uwchradd Aberhonddu a Gwernyfed, ac anfon y disgyblion i gampws newydd fydd yn cael ei hadeiladu yn Aberhonddu.

Yn ôl y Cyngor, mae hyn yn rhannol oherwydd bod ysgol Aberhonddu ar hyn o bryd o dan fesurau arbennig yn ogystal â’r ffaith fod yr adeilad yn un hen, ac mae pryder hefyd y bydd nifer y disgyblion yng Ngwernyfed yn cwympo’n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf.

Does dim disgwyl fodd bynnag y byddai’r campws newydd yn agor tan 2018 ar y cynharaf.